Cynnwys y wers hon
- Dydd a nos
- Y Lleuad
- Y planedau
Lesson content
- Day and night
- The Moon
- The planets
Dydd a nos
Mae'r Ddaear yn cylchdroi ar ei hechelin wrth deithio o gwmpas yr Haul. Mae'n cymryd un diwrnod (24 awr) i'r Ddaear gylchdroi unwaith.
- Pan rydyn ni'n wynebu'r Haul, mae'n ddydd.
- Pan rydyn ni'n wynebu i ffwrdd o'r Haul mae'n nos.
- Mae'n cymryd 365 diwrnod i'r Ddaear deithio o gwmpas yr Haul.
Wrth i’r Ddaear gylchdroi ar ei hechelin, mae’n achosi’r effeithiau hyn.
Mae'n ymddangos bod yr Haul yn symud ar draws yr awyr yn ystod y dydd - ac mae cysgodion yn symud wrth i hynny ddigwydd.
Mae'r Haul yn codi yn y dwyrain, mae ar ei uchaf yn yr awyr ganol dydd ac mae'n machlud yn y gorllewin.
Mae cysgodion yn hirach yn y bore a gyda'r nos, ac ar eu byrraf ganol dydd.
Y Lleuad
- Mae'r Lleuad yn llawer llai na'r Ddaear.
- Dim ond un wyneb o'r Lleuad rydyn ni’n ei weld.
- Rydyn ni’n gweld gweddau’r Lleuad oherwydd bod goleuni o'r Haul yn adlewyrchu oddi ar y Lleuad.
- Pan fydd y Ddaear yn union rhwng yr Haul a’r Lleuad mae'n rhwystro goleuni'r Haul rhag cyrraedd y Lleuad. Yr enw ar hyn ydy diffyg ar y Lleuad (eclips).
Y Planedau
Yr Haul yw’r seren agosaf atom ni.
Mae’r planedau mewn orbit o gwmpas yr Haul.
O’r Haul, trefn y planedau yw:
- Mercher
- Gwener
- Y Ddaear
- Mawrth
- Iau
- Sadwrn
- Wranws
- Neifion
Hafan 91ȱ Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti
Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn
TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11