91ȱ

Dysgu Gartref

Cynnwys y wers hon

  • Sut mae’r galon yn pwmpio’r gwaed o gwmpas y corff
  • Sut mae cyhyrau a chymalau yn ei gwneud hi’n bosib i ni symud

Lesson content

  • How the heart pumps blood around the body
  • How muscles and joints make it possible for us to move
Llinell / Line

Y galon a'r gwaed

  • Mae'r galon yn organ bwysig iawn. Mae'n pwmpio'r gwaed o amgylch y corff.

  • Mae pibellau gwaed yn cario gwaed o amgylch y corff.

  • Mae ɱï yn cario gwaed o'r galon i organau eraill. Y tu mewn i'r organau, mae'r ɱï yn rhannu'n bibellau llai o'r enw 辱ï.

  • Mae gwythiennau yn cario gwaed o'r 辱ï yn ôl i'r galon.

  • Mae gwaed yn cylchredeg yn y corff drwy'r ɱï a'r gwythiennau.

Curiad y galon

  • Gwaed yn cael ei bwmpio gan y galon drwy'r ɱï ydy curiad y galon.

  • Mae'r curiad (pwls) yn rhoi mesur o gyfradd curiad y galon (pa mor gyflym mae'r galon yn curo).

  • Tua 70 curiad pob munud yw cyfradd curiad dy galon pan rwyt ti'n gorffwys.

  • Mae'r galon yn curo yn gyflymach yn ystod ymarfer corff ac rwyt ti'n anadlu'n gyflymach.

Cymalau a chyhyrau

Rwyt ti angen cymalau a chyhyrau i symud. Y man lle mae dau asgwrn yn cwrdd ydy cymal.

Mae cyhyrau yn sownd wrth esgyrn. Gallan nhw ond cyfangu (byrhau) neu ymlacio (mynd nôl i'w maint gwreiddiol). Maen nhw'n tynnu ar esgyrn wrth iddyn nhw gyfangu. Maen nhw'n gweithio mewn parau.

Cofia

Dydy cyhyrau byth yn ymestyn a byth yn gwthio.

Hafan 91ȱ Bitesize

Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Hafan 91ȱ Bitesize

Cynnwys y tymor hwn

Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

Cynnwys y tymor hwn

TGAU

Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11

TGAU