91ȱ

Dysgu Gartref

Cynnwys y wers hon

  • Lluniau o symbolau trydan
  • Egluro sut mae cerrynt yn gallu amrywio

Lesson content

  • Images of electric symbols
  • Explain how currents can vary
Llinell / Line

Symbolau trydan

Rydyn ni'n gallu tynnu llun o gylchedau trydan gan ddefnyddio symbolau. Dyma'r symbolau ar gyfer batri, gwifrau, bylbiau, swnwyr, moduron a switshis fel symbolau trydan.

Llinell / Line

Amrywio'r cerrynt

  • Y mwyaf o fylbiau sydd mewn cylched, y gwannaf fydd y bylbiau.
  • Y mwyaf o swnwyr a moduron sydd mewn cylched drydan, y tawelaf fydd y swnwyr a'r arafaf fydd y moduron.

1 batri + 1 bwlb. Mae golau'r bwlb yn llachar.

1 batri + 2 fwlb. Mae golau'r bylbiau yn wannach.

1 batri + 3 bwlb. Mae golau'r bylbiau yn wannach fyth - prin eu bod yn goleuo.

1 batri + 1 swnyn. Mae'r swnyn yn swnllyd iawn.

1 batri + 2 swnyn. Mae'r swnwyr yn llai swnllyd.

1 batri + 1 modur. Mae'r modur yn symud yn gyflym.

1 batri + 2 fodur. Mae'r modur yn symud yn arafach.

Llinell / Line

Switshis

  • Pan mae'r switsh ar agor (i ffwrdd) mae'n torri'r gylched drwy wneud bwlch.
  • Pan mae'r switsh ar gau (arnodd) mae'n dod â'r gylched ynghyd, ac yn ei gwneud yn gyflawn.
  • Pan mae'r switsh ar agor nid oes cerrynt trydan a does dim dyfais drydan yn gweithio.

Hafan 91ȱ Bitesize

Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Hafan 91ȱ Bitesize

Cynnwys y tymor hwn

Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

Cynnwys y tymor hwn

TGAU

Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11

TGAU