91热爆

Dysgu Gartref

Ffocws dysgu

Dysga sut i fynegi barn a syniadau鈥檔 eglur gan ddefnyddio geirfa arbenigol ac enghreifftiau.

Mae'r wers hon yn cynnwys:

  • un fideo
  • dau weithgaredd

Lesson content

Learn how to express issues and ideas clearly, using specialist vocabulary and examples.

This lesson includes:

  • one video
  • two activities

For an English version of this lesson, scroll below.

Cyflwyniad

Mae gan bawb farn am bob pwnc, dim ots pa mor ddibwys. Er enghraifft, mae modd i ti deimlo llawn mor gryf am hela llwynogod ag wyt ti am gael defnyddio ffonau symudol yn yr ysgol, neu hyd yn oed am beth wyt ti eisiau i dy de heno.

Os wyt ti'n rhoi dy farn heb reswm ac heb dystiolaeth, dwyt ti ddim yn debygol o allu perswadio pobl i gytuno gyda ti.

I fynegi dy farn yn glir, mae'n bwysig:

  • defnyddio termau mynegi barn
  • rhoi rheswm i gefnogi dy farn
  • cryfhau dy resymau gyda thystiolaeth a safbwyntiau gan eraill i gefnogi dy farn

Dyma rai termau i dy helpu i fynegi dy farn yn glir:

  • yn fy marn i鈥
  • ar yr un llaw鈥 ar y llaw arall鈥
  • dw i o'r farn bod鈥
  • dw i'n meddwl bod鈥
  • credaf fod鈥
  • credaf yn gryf fod鈥
  • un rheswm yw鈥
  • yn sicr鈥
  • rheswm arall yw鈥
  • yn y pen draw鈥
  • i grynhoi鈥
Llinell / Line

Fideo

Gwylltia Rhodri am fod ei dabled wedi colli p诺er. Dydy Erin ddim yn hapus am y ffordd y mae Rhodri鈥檔 mynegi ei farn ac felly ceisia hi ei helpu i ddatblygu ei farn.

Nodiadau ar gyfer rhieni

Ar 么l gwylio'r fideo, bydd disgyblion yn gallu:

  • mynegi barn yn hyderus, gan gefnogi eu safbwyntiau gyda thystiolaeth
  • defnyddio a chofio termau mynegi barn
Llinell / Line

Gweithgaredd 1

Seren Y Flwyddyn

Eleni, mae gwobr ddychmygol newydd wedi cael ei chreu ar gyfer enwogion o鈥檙 enw 鈥楽eren Y Flwyddyn鈥. Mae鈥檙 pwyllgor sy鈥檔 rheoli鈥檙 gystadleuaeth wedi dewis 10 person ifanc i rannu eu barn, ac rwyt ti'n un ohonynt.

Dewisa un person enwog sydd, yn dy farn di, yn haeddu ennill gwobr 鈥楽eren Y Flwyddyn鈥. Bydd rhaid i ti berswadio鈥檙 pwyllgor mai dy berson enwog di sydd orau ar gyfer y wobr, a chyflwyno dy farn a dy resymau iddynt.

Cofia ddefnyddio termau mynegi barn, a chynnig rhesymau a thystiolaeth i gefnogi dy farn.

Llinell / Line

Gweithgaredd 2

Dewisa un elfen o fywyd ysgol hoffet ti addasu, dileu neu rywbeth hoffet ti gyflwyno o鈥檙 newydd. Rhaid i ti gyflwyno dy syniad yn glir ac yn drefnus gan ddefnyddio geirfa mynegi barn.

Bydd angen esbonio pam dy fod wedi dewis dy destun, a chynnig digon o resymau neu dystiolaeth i gefnogi dy farn er mwyn perswadio eraill i gytuno gyda ti.

Introduction

Everyone has an opinion about every subject, no matter how small or insignificant. For example, you can feel just as strongly about fox-hunting as you do about the use of mobile phones in school, or even about what you want for your tea tonight.

If you express your opinion without a reason or without any evidence, it's unlikely that you'll be able to persuade people to agree with you.

In order to be able to express your opinion clearly, it's important to:

  • use terms that express opinion
  • give a reason to support your opinion
  • strengthen your reasons with evidence and standpoints from others to support your opinion

Here are some terms to help you express your opinion clearly:

  • yn fy marn i鈥 - in my opinion鈥
  • ar yr un llaw鈥 ar y llaw arall鈥 - one the one hand鈥 on the other hand鈥
  • dw i o'r farn bod鈥 - I'm of the opinion that鈥
  • dw i'n meddwl bod鈥 - I think that鈥
  • credaf fod鈥 - I believe that鈥
  • credaf yn gryf fod鈥 - I strongly believe that鈥
  • un rheswm yw/ydy鈥 - one reason is鈥
  • yn sicr鈥 - 肠别谤迟补颈苍濒测鈥
  • rheswm arall yw/ydy鈥 - another reason is鈥
  • yn y pen draw鈥 - in the long run鈥 / ultimately鈥
  • i grynhoi鈥 - to summarise
Llinell / Line

Video

Rhodri's annoyed that his tablet has lost power. Erin isn't happy about the way that Rhodri expresses himself, and so tries to help him develop his opinion.

Notes for parents

After watching the video, students will be able to:

  • express their opinions confidently by backing their standpoints with evidence
  • use and remember terms that will help them express their opinions confidently in Welsh
Llinell / Line

Activity 1

Star of the Year

This year a new imaginary prize called 鈥楽eren Y Flwyddyn鈥 (Star of the Year) has been created for celebrities. The committee who manages the competition has chosen 10 young people to share their opinions on it, and you're one of them.

Choose one famous person or celebrity who, in your opinion, deserves to win the 鈥楽eren Y Flwyddyn鈥 prize. You'll have to persuade the committee that your celebrity is the best person for the prize, and express your opinion and reasons to them.

Remember to use terms that express opinion, and offer reasons and evidence to support your opinion.

Llinell / Line

Activity 2

Choose one element of school life that you'd like to change, remove or something brand new that you'd like to introduce. You must express your idea clearly and in an organised way by using appropriate vocabulary for expressing an opinion.

You'll need to explain why you've chosen your idea, and offer enough reasons or evidence to support your opinion in order to persuade others to agree with you.

Hafan 91热爆 Bitesize

Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Hafan 91热爆 Bitesize

Cynnwys y tymor hwn

Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

Cynnwys y tymor hwn

TGAU

Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11

TGAU