Cynnwys y wers hon
- Priodweddau y defnyddiau mwyaf cyffredin rydyn ni’n eu defnyddio
Lesson content
- The properties of the most common materials that we use
Mae gwahanol briodweddau yn gwneud defnyddiau yn addas i'w defnyddio ar gyfer gwahanol bethau.
Mae modd newid siâp gwrthrychau sydd wedi eu gwneud o rai defnyddiau drwy estyn, gwasgu, plygu a dirdroi.
Cyn i ti ddysgu am rai o’r defnyddiau cyffredin rydyn ni’n eu defnyddio heddiw, dyma dermau sy’n ein helpu ni i’w disgrifio:
- Tryloyw - defnydd rydyn ni'n gallu gweld golau trwyddo.
- Tryleu - defnydd rydyn ni'n gallu gweld ychydig o olau trwyddo.
- Didraidd - defnydd dydyn ni ddim yn gallu gweld dim golau drwyddo.
Metelau
- I'w canfod yn y ddaear, weithiau wedi'u cymysgu â cherrig.
- Cryf, caled, gloyw, hydrin (mae modd eu morthwylio i wahanol siapiau heb eu torri ac mae modd eu hymestyn yn wifrau).
- Mae haearn a dur yn fagnetig. Dydy’r rhan fwyaf o’r metelau eraill ddim yn fagnetig.
- Mae rhai metelau yn ddargludyddion thermol (gwres) a dargludyddion trydanol da.
Plastigau
- Wedi eu gwneud o olew.
- Cryf a gellir eu gwneud i unrhyw siâp.
- Ddim yn fagnetig.
- Yn ynysyddion trydanol a thermol da.
- Mae'n bosib eu lliwio.
- Yn dryloyw, yn dryleu neu'n ddidraidd.
Gwydr
- Wedi ei wneud drwy wresogi tywod a chemegau â'i gilydd.
- Cryf, ond mae'n gallu malu'n ddarnau mân.
- Fel arfer yn dryloyw.
- Rydyn ni'n gallu creu gwahanol siapiau ohono.
Crochenwaith
- Wedi ei wneud o glai sy'n cael ei siapio i ddechrau ac yna ei wresogi.
- Cryf, ond mae crochenwaith wedi'i wydro yn gallu malu'n ddarnau mân.
- Yn ddidraidd fel arfer.
- Rydyn ni'n gallu creu gwahanol siapiau ohono.
Pren
- Yn dod o goed.
- Cryf, hyblyg ac yn para'n hir.
- Yn ynysydd trydanol a thermol.
- Rydyn ni'n ei ddefnyddio i wneud papur.
Ffabrigau
- Wedi eu gwneud o ffibrau wedi eu gwehyddu at ei gilydd.
- Mae rhai ffabrigau, fel gwlân, sidan a chotwm, yn naturiol (mae'r ffibr yn dod o bethau byw).
- Mae ffabrigau naturiol yn eithaf drud.
- O'r ffabrigau naturiol, mae gwlân yn rhoi cynhesrwydd ac mae cotwm yn eich cadw'n oer ac mae'n amsugnol (mae'n amsugno hylifau).
- Mae rhai ffabrigau, fel polyester a neilon, wedi eu gwneud gan ddyn.
- Mae ffabrigau wedi eu gwneud gan ddyn fel arfer yn hawdd i'w golchi a'u sychu ac yn para'n dda.
Cerrig
- Defnydd crai y Ddaear. Maen nhw o dan y ddaear, ar draethau, mewn pridd.
- Mae rhai cerrig fel gwenithfaen yn galed.
- Mae rhai cerrig fel sialc yn feddal.
- Mae rhai cerrig fel llechen yn anhydraidd i ddŵr (dydyn nhw ddim yn gadael i ddŵr fynd drwyddyn nhw).
- Mae rhai cerrig fel tywodfaen yn hydraidd i ddŵr (maen nhw’n gadael i ddŵr fynd drwyddyn nhw).
Hafan 91ȱ Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti
Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn
TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11