91ȱ

Dysgu Gartref

Cynnwys y wers hon

  • Gwybodaeth gyffredinol am grymoedd magnetedd
  • Cwis am grymoedd magnetedd

Lesson content

  • General information about magnetic forces
  • A quiz about magnetic forces
Llinell / Line

Bydd magnet yn tynnu rhai metelau tuag ato'i hun.

Dydy'r rhan fwyaf o fetelau yn cael eu hatynnu (ddim yn cael eu tynnu) tuag at fagnetau.

Haearn, nicel a chobalt ydy'r metelau sy'n cael eu hatynnu tuag at fagnetau. Gelwir y metelau hyn yn fagnetig.

Mae dur yn gymysgedd o fetelau. Mae dur yn fagnetig am ei fod yn cynnwys haearn.

Mae gan bob magnet ddau begwn.

Bydd dau fagnet gyda phegynau annhebyg sy'n wynebu yn atynnu (tynnu tuag at) ei gilydd.

Bydd dau fagnet gyda phegynau tebyg sy'n wynebu yn gwrthyrru (gwthio'i gilydd ar wahân).

Gellir mesur tyniad magnet gyda mesurydd newton.

Hafan 91ȱ Bitesize

Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Hafan 91ȱ Bitesize

Cynnwys y tymor hwn

Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

Cynnwys y tymor hwn

TGAU

Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11

TGAU