Cynnwys y wers hon
- Defnyddiau sy’n dargludo trydan
- Defnyddiau sy’n ynysu trydan
Lesson content
- Materials that conduct electricity
- Materials that are electrical insulators
Dargludyddion trydanol
Mae rhai defnyddiau yn gadael i drydan basio trwyddyn nhw'n hawdd. Dargludydd trydanol yw’r enw ar y math yma o ddefnydd.
Mae metelau yn ddargludyddion trydanol da fel alwminiwm, copr, haearn a dur.Mae dŵr hefyd yn ddargludydd trydanol, ond mae'n ddargludydd gwael o'i gymharu â metel.
Ynysyddion trydanol
Dydy rhai defnyddiau ddim yn gadael i drydan basio trwyddyn nhw. Rydyn ni'n galw'r math yma o ddefnydd ynynysydd trydanol.
Mae plastigau, pren, gwydr a rwber yn ynysyddion trydanol da.Rydyn ni'n defnyddio ynysyddion trydanol i orchuddio defnyddiau sy'n cludo trydan.
Wyt ti wedi sylwi bod llawer o offer trydanol wedi eu gorchuddio ag ynysydd trydanol?
Paid byth â chyffwrdd ag unrhyw beth trydanol gyda dwylo gwlyb.Mae dŵr yn gallu dargludo trydan drwy dy gorff a rhoi sioc drydanol i ti.
Hafan 91ȱ Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti
Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn
TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11