Cynnwys y wers hon
- Priodweddau solidau, hylifau a nwyon
- Yr hyn sy’n digwydd pan fydd defnyddiau yn ymdoddi, anweddu, cyddwyso a rhewi
Lesson content
- The properties of solids, liquids and gases
- What happens when materials melt, evaporate, condense and freeze
Mae pob defnydd wedi'i wneud o ronynnau bach iawn, iawn sy'n cael eu dal at ei gilydd gan rymoedd.
Mae pob defnydd yn bodoli fel solid, hylif neu nwy.
- Mewn solid mae'r gronynnau yn cael eu dal yn agos iawn at ei gilydd. Prin maen nhw'n gallu symud.
- Dydy solidau ddim yn llifo fel hylifau. Ar y cyfan, maen nhw'n aros mewn un lle!
- Mae solidau yn cadw eu siâp.
- Mae solidau bob amser yn cymryd yr un faint o le. Dydyn nhw ddim yn gwasgaru fel nwyon.
- Mewn hylif dydy'r gronynnau ddim mor agos at ei gilydd. Maen nhw'n gallu symud ychydig.
- Mae hylifau yn llifo'n hawdd.
- Mae hylifau yn newid eu siâp. Maen nhw'n cymryd siâp y cynhwysydd sy'n eu dal.
- Mae hylifau bob amser yn cymryd yr un faint o le. Pan fydd hylifau yn newid siâp mae eu cyfaint yn aros yr un fath.
- Mewn nwy mae'r gronynnau wedi eu gwasgaru. Maen nhw'n gallu symud yn hawdd.
- Mae nwyon yn gwasgaru'n hawdd.
- Mae nwyon yn newid eu siâp.
- Mae'n bosibl gwasgu nwyon.
Weithiau mae dŵr yn solid - rhew.
Mae dŵr hefyd yn hylif - dŵr.
Mae dŵr hefyd yn nwy - anwedd dŵr.
Ond cofia - paid â drysu! Mae ager, fel sy'n dod o degell, yn gymysgedd o ddiferion dŵr ac anwedd dŵr. Rwyt ti'n gallu gweld y diferion dŵr - sydd yn ronynnau mân o hylif. Ond dwyt ti ddim yn gallu gweld yr anwedd dŵr - sydd yn nwy.
Gwresogi
- Mae gwres yn newid defnydd o solid i hylif i nwy.
- Mae solid yn ymdoddi yn hylif wrth ei gynhesu.
- Mae hylif yn anweddu yn nwy wrth ei gynhesu. Dydy e ddim yn diflannu.
Oeri
- Bydd tynnu gwres (oeri) yn newid defnydd o nwy i hylif i solid.
- Mae nwy yn cyddwyso i hylif wrth ei oeri.
- Mae hylif yn rhewi yn solid wrth ei oeri.
Mae gwlith yn ffurfio pan fydd anwedd dŵr yn yr aer yn cyddwyso. Ar noson oer mae gwlith yn gallu rhewi i ffurfio rhew.
Mae anweddu a chyddwyso yn bwysig i ailgylchu dŵr y Ddaear.
- Mae dŵr yn anweddu.
- Mae dŵr yn cyddwyso yn gymylau.
- Mae dŵr yn syrthio fel glaw.
- Mae dŵr yn llifo yn ôl i'r môr.
Hafan 91ȱ Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti
Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn
TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11