Cyflwyniad
Dyma wybodaeth am rownd gomisiynu podlediadau Cymraeg 2025/26 ar gyfer 91热爆 Sounds. Rydym yn edrych ymlaen at glywed yr holl syniadau creadigol ddaw drwy’r broses, ac at gyd-weithio ar ystod o bodlediadau rhwng Ebrill 2025 a Mawrth 2026.
Y flaenoriaeth eto eleni yw codi ymwybyddiaeth, defnydd a ffigyrau gwrando ar 91热爆 Sounds. Hoffem wneud hyn drwy gynnig 4 maes ar gyfer y syniadau:
1. Cyfresi dan frand Lleisiau Cymru
Yn 2024 fe grëwyd brand Lleisiau Cymru, gyda’r bwriad o ddatblygu’n gartref i amrywiaeth o gyfresi a phodlediadau un pennod.
Hyd yma rydym wedi cyhoeddi cyfres 1 Mewn 2 gan Mari Grug, Bwyd gyda Colleen Ramsay a’n edrych ymlaen at gyhoeddi cyfres gan Nigel Owens ym mis Mawrth.
Gall ystod o bynciau a themâu gael eu cynnig ar gyfer cyfres dan frand lleisiau Cymru – yr hyn fydd yn gyson fydd trafod bywiog, cyfoes all fod yn heriol neu doniol, ond yn dweud rhywbeth am Gymru a’i phobl.
Wrth gomisiynu, fe fyddwn yn gofyn i gwmnïau ystyried pa gynnwys digidol atodol gellir eu darparu er mwyn hyrwyddo’r gyfres.
Hyd at £2,000 y bennod.
2. Podlediadau un pennod dan frand Lleisiau Cymru
Dyma gyfle i adrodd stori fawr mewn arddull dyfeisgar.
Rydym eisiau clywed straeon gyda naratif cryf, all gydio yn nychymyg gwrandawyr o’r eiliad gyntaf. Eto fan yma, mae straeon cyfoes all adlewyrchu elfen o Gymru heddiw yn apelgar.
Gall themâu fod yn ddwys neu’n ysgafn, ond mae’n bwysig bod strwythur cadarn a chyflawn – dyma gyfle i fynd â’r gynulleidfa ar daith a’u cyflwyno i fyd newydd.
Mae cyfres Radiolab gan WNYC yn cyflawni hyn yn grefftus - rydym yn chwilio am ystod o straeon Cymreig fyddai’n addas ar gyfer ymdriniaeth dyfeisgar.
Hyd: 20 munud – 40 munud
Pris: Hyd at £2,500
3. Cyfresi newydd
Dyma gyfle i gynnig unrhyw fath o bodlediad i'w gyhoeddi ar 91热爆 Sounds. Gallant fod yn gyfresi comedi, trafod, dogfen – rydym yn awyddus i glywed pob math o syniadau.
Mae cyfresi ysgafn, sy’n cynnig cwmnïaeth a chysur i'r gynulleidfa yn apelgar. Wrth gynnig syniad, ceisiwch egluro at ba gynulleidfa byddai cyfres yn apelio.
Mae cyfresi sy’n adrodd stori fawr dros amser hefyd yn apelgar. Fe all rhain gynnwys straeon troseddol neu ddigwyddiadau go iawn. Wrth drafod syniadau all fod ag ystyriaethau golygyddol dyrys, byddwn yn gofyn am dystiolaeth o allu cwmnïau i'w cyflawni o fewn safonau golygyddol y 91热爆.
Mae ystod pris y comisiynau yma yn eang, ond fel canllaw rydym yn rhagweld pris o £400 i £800 y bennod ar gyfer podlediadau sy’n drafodaeth stiwdio, a hyd at £2,500 y bennod ar gyfer cyfresi dogfen.
4. Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Unwaith eto rydym yn gwahodd syniadau am gyfresi fydd yn cyfoethogi ein darpariaeth ar gyfer pobl sy’n dysgu Cymraeg.
Mae cyfresi Sgwrsio gyda Nick Yeo a Pont gydag Angharad Lewis wedi ein cyflwyno i unigolion difyr, wrth i ni glywed eu straeon ac am effaith dysgu’r iaith ar eu bywyd a’u byd-olwg.
Wrth gynnig syniad yma, byddwn yn gofyn pa gynnwys atodol neu adnoddau ychwanegol gellir eu darparu i gyd-fynd â’r gyfres.
Bydd y cyfresi yma’n cael eu cyhoeddi o dan frand ‘Y Podlediad Dysgu Cymraeg’.
Hyd at £500 y bennod
Amserlen y rownd gomisiynu:
5 Chwefror – Agor y rownd
26 Chwefror am hanner dydd – dyddiad cau
10 Mawrth ymlaen – Cyfweliadau rhestr fer
Rydym yn gobeithio dod i benderfyniadau erbyn diwedd mis Mawrth.
Tîm comisiynu Radio Cymru
Dyma’r tîm sy’n gyfrifol am wneud penderfyniadau sy’n ymwneud â chomisiynu.
Mae croeso i gynhyrchwyr drafod yn anffurfiol gydag aelod o’r tîm comisiynu cyn mynd ati i gyflwyno cynnig yn llawn.
Dafydd Meredydd, Pennaeth Gwasanaethau Cymraeg 91热爆 Cymru
Dafydd sy’n arwain timau Radio Cymru a Cymru Fyw, ac yn cynrychioli’r gwasanaethau Cymraeg ar Fwrdd 91热爆 Cymru.
Yn ddarlledwr a chynhyrchydd profiadol, mae gan Dafydd brofiad helaeth o gyflwyno a chreu rhaglenni radio o bob math.
Gruffudd Pritchard, Golygydd Cynnwys
Mae gan Gruff drosolwg o gynnwys gwasanaethau Radio Cymru, Radio Cymru 2, adran gylchgrawn Cymru Fyw a chynnwys Cymraeg 91热爆 Sounds.
Gareth Iwan Jones, Uwch-gynhyrchydd
Mae Gareth yn gyfrifol am amrywiaeth o raglenni’r orsaf o ganolfan Bangor, ac mae ganddo arbenigedd mewn rhaglenni cerddoriaeth a llafar.
Sioned Lewis, Uwch-gynhyrchydd
Mae Sioned yn gyfrifol am amrywiaeth o raglenni’r orsaf o ganolfan Caerdydd, ac mae ganddi arbenigedd mewn rhaglenni llafar a dogfen.
Cerian Arianrhod, Rheolwr Darlledu
Yn gynhyrchydd profiadol, mae Cerian bellach yn arwain tîm darlledu Radio Cymru ac yn sicrhau bod ein rhaglenni yn cyrraedd y gynulleidfa ar y radio ac ar 91热爆 Sounds.
Catrin Huws, Rheolwr Cynhyrchu
Yn ogystal â rheoli elfennau ymarferol a chynyrchiadau Radio Cymru, mae Catrin yn rhan o dîm golygyddol a chomisiynu’r adran ac yn gweithio gyda chynhyrchwyr o’r sector annibynnol i gynnig arweiniad pendant ar raglenni.