91热爆

Sut i gynnig syniad

Comisiynu Radio Cymru

Diweddarwyd: 4 Tachwedd 2024

Gall unrhyw un gynnig syniad mawr neu fach i 91热爆 Radio Cymru.

Wrth gomisiynu rydym yn ystyried nifer o ffactorau sy’n ymwneud â masnachu teg, iechyd a diogelwch a gofynion ymarferol y broses gynhyrchu.

Mae sawl rhan i'r broses gomisiynu gan gynnwys cyflwyno cynnig ysgrifenedig ac yna cyfweliadau. Mae’n bosib y byddwn hefyd yn gofyn am beilot o raglen cyn gwneud penderfyniad terfynol.

Cyn y gellir cadarnhau unrhyw gomisiwn, mae angen i bob cwmni fynd trwy broses o gofrestru gyda’r 91热爆 fel darparwr annibynnol. Fel rhan o’r broses hon, mae’n bosib y byddwn yn gofyn am dystiolaeth o allu’r cwmni i wireddu syniad mewn ffordd sy’n cydymffurfio â safonau’r 91热爆 yn olygyddol ac o ran iechyd a diogelwch.

Rhaid i syniadau gael eu cyflwyno drwy ein system comisiynu ni, proteus (manylion isod).

Ond i gychwyn sgwrs gyda ni yngl欧n â chynnig syniad am raglen radio neu bodlediad, cysylltwch â syniadau@bbc.co.uk.

Proteus

Mae angen i bawb gyflwyno eu syniadau trwy Proteus os gwelwch yn dda.

Os nad ydych chi wedi defnyddio Proteus cyn hyn yna e-bostiwch syniadau@bbc.co.uk i drefnu login. Cysylltwch mewn da bryd, fe all gymryd ychydig ddyddiau i drefnu.

Mae gan y mwyafrif o gyflenwyr annibynnol 2 login Proteus – un ar gyfer cyflwyno syniadau i rowndiau comisiynu (pitching account), ac un arall ar gyfer y gwaith papur pan fod rhaglen wedi’i chomisiynu. 

Y cyfeiriad ar gyfer cyflenwyr annibynnol yw:  

Y cyfeiriad ar gyfer staff 91热爆 yw:  

Os oes angen cymorth gyda login sy’n bodoli eisoes yna cysylltwch gyda proteus.support@bbc.co.uk ond nodwch ma’ 9-5 Llun-Gwener yw’r oriau pan ma’ cymorth ar gael.

Manylion ar sut i gynnig syniad yn Proteus

Gofalwch eich bod yn dewis y rownd a’r flwyddyn cywir wrth gynnig eich syniad(au). Mae’r Rhwydwaith Wales – 91热爆 Wales Podcasts nesa’ i’n un ni yn y rhestr , ond nid hwn yw’r rownd cywir. Wales – Radio Cymru Podcast Network sydd angen ar ein cyfer ni. Fe fyddwch chi hefyd yn gweld rowndiau agored ar gyfer amserlennu yn Proteus, ond mae rhein wedi’u labeli yn glir.

Os ydy’ch cynnig chi’n mynd i’r rhwydwaith neu i’r rownd anghywir ni fyddwn ni’n ei weld.

Cyflenwyr annibynnol - gofalwch hefyd eich bod yn cynnig y syniad i’r Rhwydwaith os gwelwch yn dda, nid i’r Adran yn unig. Dim ond syniadau sydd wedi eu cynnig i’r Rhwydwaith y byddwn ni’n medru eu gweld.

Fe fydd y rownd yn cau am hanner dydd yn ddi-ffael. Peidiwch aros tan fore y dyddiad cau cyn cyflwyno syniadau.

& Trwy Proteus yr hysbysir pawb am ganlyniadau’r rownd gomisiynu. Er mwyn gweld y wybodaeth berthnasol i chi mae angen i chi logio i fewn i Proteus a mynd i’r cynnig / cynigon unigol i weld unrhyw negeseuon.

Diolch

Gofynion wrth Ddarparu Rhaglenni

Wrth ddarparu rhaglenni i Radio Cymru neu 91热爆 Sounds, mae gofyn i gynhyrchwyr fodloni nifer o ofynion golygyddol, technegol a gweinyddol.

Fe fydd y manylion llawn i’w gweld yn y fanyleb a gaiff ei derbyn wedi’r comisiwn.

Gwerthoedd golygyddol
Mae’n rhaid i holl gynnwys ein rhaglenni gydymffurfio â Safonau Golygyddol y 91热爆

Mae modd gweld fersiwn Gymraeg o’r Safonau Golygyddol fan .

Yn sylfaenol rydym yn disgwyl i bob darn o gynnwys fod yn gywir, yn ddiduedd ac yn addas i ddisgwyliadau’r gynulleidfa.

Dyddiadau cyfleu
Mae’n rhaid cyfleu rhaglenni pythefnos cyn y dyddiad darlledu.

Yr unig eithriad i’r rheol hon yw rhaglenni sy’n trafod straeon cyfredol a’r newyddion.

Ansawdd sain a gofynion technegol
Rydym yn disgwyl i holl gynnwys Radio Cymru fod o’r ansawdd sain gorau posib. Wrth gomisiynu, mae’n debygol y byddwn yn gofyn am dystiolaeth o allu cynhyrchwyr i ddarparu recordiadau safonol.

Gwybodaeth ddarlledu a gweinyddol
Wrth gomisiynu syniad, byddwn yn darparu manyleb gyda gwybodaeth weinyddol sydd i'w darparu wrth gyflwyno’r gwaith.

Bydd angen gwybodaeth am gynnwys y rhaglen, ffurflenni iechyd a diogelwch ac unrhyw gytundebau perthnasol.

Amrywiaeth a chynrychiolaeth

Rydym eisiau adlewyrchu Cymru fel ag y mae heddiw ar yr orsaf, ac er mwyn gwneud hynny, rydym yn gweithio’n agos gyda phartneriaid a rhannau eraill o’r 91热爆.

Fel rhan o’n hymrwymiad i bolisïau amrywiaeth a chynhwysiant y 91热爆, mae ystyried cynrychiolaeth a chydraddoldeb yn rhan flaenllaw o broses gomisiynu Radio Cymru.

Wrth ddatblygu syniadau, mae’n gyfrifoldeb arnom i gefnogi amrywiaeth o fewn ein gweithlu a thimau cynhyrchu yn ogystal â’r cynnwys.

Deunydd gweledol a hyrwyddo

Mae deunydd hyrwyddo’r rhaglen yn hanfodol er mwyn rhoi’r cyfle gorau i’r gynulleidfa ddod o hyd i’r cynnwys. Mae lluniau a fideo o ansawdd uchel yn hwyluso sut allwn hyrwyddo eich rhaglenni ar y cyfryngau cymdeithasol a Cymru Fyw.

Wrth ddatblygu syniad, ceisiwch amlinellu pa elfennau gweledol atodol y gallwch eu cynnig.

Wrth gomisiynu gwaith gan gwmni, byddwn yn nodi disgwyliad pendant yn y fanyleb o ran lluniau, fideos neu gynnwys atodol a all ein helpu i hyrwyddo eich rhaglen.

Cysylltiadau defnyddiol

Y ffordd orau o gychwyn sgwrs gyda ni yngl欧n â chyflwyno syniad yw cysylltu â’r tîm:

syniadau@bbc.co.uk

Gwybodaeth dechnegol i gynhyrchwyr sy’n darparu rhaglen ar gyfer Radio Cymru:

RadioCymruAmserlennu@bbc.co.uk

Cynnig syniad neu stori newyddion ar gyfer Cymru Fyw: cymrufyw@bbc.co.uk

 

Rebuild Page

The page will automatically reload. You may need to reload again if the build takes longer than expected.

Useful links

Theme toggler

Select a theme and theme mode and click "Load theme" to load in your theme combination.

Theme:
Theme Mode: