Efallai mae Niclas y Glais yw'r mwyaf amlwg a diamwys ei statws fel rebel o'r naw o bobl a gynhwysir yn y ddwy gyfres o "Rebels Cymreig".
Bu'n herio confensiynau ei oes a'i alwedigaeth fel gweinidog anghydffurfiol, yn cefnogi Comiwnyddiaeth ac athrawiaeth Karl Marx, yn herio awdurdod ar adeg rhyfel.
Cefnogai weithwyr y Rhondda yn erbyn yr awdurdodau pan ddaethpwyd 芒 heddlu a milwyr i'r cymoedd yn ystod streiciau mawr 1910-12.
Gwrthwynebodd y ddau Ryfel Byd, gan wynebu erlyniad am ei safiad, a chael ei garcharu.
Roedd yn cefnogi gweriniaeth mewn gwlad a oedd yn od o frenhingar, ag ystyried y traddodiad radicalaidd oedd iddi.
Ac yn fwy na dim, efallai, nid rhyw safiad undydd-unnos oedd argyhoeddiad Niclas: fe ddaliodd at ei egwyddorion trwy gydol ei oes faith.
I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00 Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.
Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.