Sut fedra i danysgrifio i bodlediad?
Bydd angen cyswllt rhyngrwyd arnoch a darn o feddalwedd podledu (gweler y cysylltiadau cysylltiedig).
Mae'r dull o wneud hyn yn dibynnu ar y math o feddalwedd yr ydych wedi ei ddewis.
Dyma fras ganllaw i'r ffordd y gallai hyn ddigwydd:
Os oes gennych iTunes medrwch danysgrifio i'r podlediad trwy gyfeiriadur podlediadau iTunes.
Os na fedrwch ddod o hyd i'r podlediad yr ydych ei eisiau ar iTunes yna medrwch ddilyn yr un dull a'r un a amlinellir isod ar gyfer Juice, Doppler a meddalwedd podledu eraill
Os oes gennych Juice, Doppler ynteu raglen feddalwedd arall yna mae'n debyg taw dyma'r drefn y bydd yn rhaid i chi ei dilyn. Dyma'r achos hefyd os na fedrwch ddod o hyd i'r podlediad yr ydych ei eisiau ar iTunes.
Ym mhob achos, bydd angen i chi ychwanegu 'ffrwd' y podlediad i'ch meddalwedd. Cyfeiriad y podlediad yw'r 'ffrwd', sy'n dweud wrth y meddalwedd lle i chwilio pan fydd eisiau gweld os oes pennod newydd ar gael.
Medrwch ddod o hyd i'r 'ffrwd' ar gyfer unrhyw bodlediad gan y 91热爆 trwy glicio ar naill ai'r botwm oren XML, ynteu'r botwm podlediad melyn. Yn y naill achos a'r llall bydd cyfeiriad y 'ffrwd' yn ymddangos ym mocs cyfeiriad eich porwr rhyngrwyd. Bydd yn cychwyn gyda 'http://downloads.bbc.co.uk/...'
Bydd angen i chi gop茂o cyfeiriad y 'ffrwd' a'i bastio i mewn i feddalwedd eich porwr. Mae'r ffodd o wneud hyn y n dibynnau ar y feddalwedd sydd gennych, ond dylech edrych am fotymau ynteu gysylltiadau sy'n dweud rhywbeth fel "Ychwanegwch" ynteu "Tanysgrifiwch".
O dudalennau gwe'r 91热爆, cop茂wch a phastio'r cyswllt "Feed URL" yn y bocs "Subscribe to this podcast" i mewn i'ch meddalwedd podledu. Bydd eich meddalwedd yn gwneud y gweddill.
Dewis arall a ddarperir gan rhai rhaglenni meddalwedd yw clicio ar y ddarpariaeth i danysgrifio gydag un-clic, trwy glicio'r botwm tanysgrifio un clic perthnasol.
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00 Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.
Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.