Cofi Roc yn ol!
Wedi ffurfio yn yr ysgol yng Nghaernarfon, fe laniodd Quidest ar y s卯n tua bum mlynedd yn 么l gyda d么s da o roc melodic yn llawn o harmoniau a dylanwadau blues. Ai dyma'r grwp fyddai'n llenwi 'sgidiau mawr y Big Leaves oedd pawb yn gofyn?
Yn gyntaf, fe recordiodd Quidest sesiwn acwstic i Radio Cymru cyn mynd ymlaen i ryddhau EP ar label Gwynfryn Cymunedol o'r enw 'Yn Erbyn y Wal' yn 2002 (oedd yn darlunio 4 o'r aelodau yn piso yn erbyn wal!). Daeth caneuon fel 'Isho Mwy', 'Dagrau' ac 'Amser cyn Heddiw' o'r EP yn hits radio dros nos, a fe gymerodd Quidest y cyfrifoldeb llawn o ail-osod Caernarfon yn brifddinas roc Cymru!
Er bod y band wedi ffurfio yn yr ysgol, erbyn hyn mae rhai o'r aelodau wedi mynd i golegau gwahanol, ond diolch byth mae Quidest wedi aros gyda'i gilydd a mae 2004 yn argoeli i fod yn flwyddyn enfawr i'r grwp sy'n rhyddhau albym newydd yn hwyrach yn yr h芒f.
Mi fydd caneuon y sesiwn yn ymddangos ar yr albym, felly cliciwch ar y caneuon ar dop y dudalen i glywed blas o'r albym newydd - cyffur arbennig i godi calon a phrawf pendant bod Quidest yn barod i lenwi gofod y Big Leaves!
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.