91热爆

Rich o MAX N

Rich, MAX N

Gwrandewch ar atebion Rich i holiadur C2

Matt, Rich, Rod a Gaz - neu MAX N ydy bach-band ('boy-band') diweddaraf a mwyaf cyffrous Cymru! Ers dod at ei gilydd ar y gyfres Pam Fi Duw? ar S4C mae'r band wedi esblygu a newid dros y blynyddoedd - PFD oedd yr enw cyntaf, wedyn Storm a rwan MAX N, a mae'r grwp ar fin mynd ar daith fawr gyda neb llai na Blazin' Squad.

Pleser oedd croesawu Rich o'r grwp fel gwestai arbennig Daf Du ar C2 nos Iau, Mawrth 18. Rich ydy aelod hynaf y grwp (dim ond yn 21 oed!) ac yn cael ei ddisgrifio fel yr un "trefnus ac aeddfed. Un sydd yn cymeryd llawer o ddiddordeb yn ei ddillad a'i ymddangosiad yn gyffredinol!"

Ond mae Rich hefyd yn gerddorol iawn - yn chwarae'r piano clasurol ac yn cyfansoddi i'r grwp, ac yn rhestru Bon Jovi, Westlife, Bryan Adams, Pink a'r Backstreet Boys fel ei ddylanwadau. Fe ddechreuodd ei yrfa cerddorol gyda'r grwp Dim Esgus o Rydaman a recordiodd sesiwn i Radio Cymru blynyddoedd yn 么l.

Am holl newyddion, gigs a lluniau MAX N, ewch i'w gwefan: . Dyma'r caneuon ddewis Rich i'w darlledu ar C2, Radio Cymru:

C芒n o Blentyndod: Dim Esgus - Llifo

C芒n Carioci: Frank Sinatra - New York, New York

C芒n Torri Calon: Eric Clapton - Tears in Heaven

C芒n yn y Car: Mike Peters - Cyfiawnder Cyfiawn

C芒n nos Wener: Edward H. Dafis - Ty Haf

C芒n Snog Gyntaf: Boyzone - No Matter What

C芒n Creu Argraff ar Ferch: Lamar - What About Love

C芒n Gyntaf mewn Parti: Eden - Cer Nawr

Cas G芒n: Sobin a'r Smaeliaid - Curo ar y Drws

Albym Gorau: Def Leopard - Volt

Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am unrhyw wefan allanol y cysylltir iddi o'r tudalennau yma.

Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

91热爆 iD

Llywio drwy鈥檙 91热爆

91热爆 漏 2014 Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.