91热爆

Huw Evans

Huw Evans

Gwrandewch ar atebion Huw i holiadur C2

Fel canwr y grwp unigryw Mwsog, gafodd ei ffurfio yn Ysgol Glan Clwyd, y daeth Huw Evans i sylw'r cyhoedd yn gyntaf. Yn grwp diddorol ac arbrofol, nath Mwsog greu argraff fawr gyda sesiwn i raglen Gang Bangor, Radio Cymru tua 3 blynedd yn 么l, ond ers hynny wedi bod braidd yn dawel. 'Falle bod y ffaith bod unrhyw un yn cofio pwy ydy Mwsog yn destament i'w talent!

Gyda llais fel Chris Martin a phresenoldeb llwyfan fel Robbie Williams, mae Huw Evans yn sicr yn hoelio'r sylw fel prif leisydd a 'falle mae dyna sut laniodd Huw swydd fel cyflwynydd y cyfresi i dot dot a Bandit ar S4C digidol. Y newyddion da ydy bod Mwsog o'r diwedd wedi bod n么l i'r stiwdio i recordio caneuon newydd gwych - felly gwyliwch y gofod!

Mae Huw hefyd yn cael ei weld yn chwarae rhan 'Skid' o'r gyfres Xtra ar S4C. Felly beth sy'n gwneud i Huw dicio? Wel, roedd e wrth ei fodd yn rhoi ychydig o addysg cerddorol i Daf Du gyda'i ddewis o gerddoriaeth Cymraeg, Saesneg a Ffrangeg, a dyma'r caneuon ddewisiodd i chwarae:

C芒n o Blentyndod: Hanner Pei - Y Bydumdum

C芒n Carioci: Y Cyrff - Pethau Achlysurol

C芒n Torri Calon: Jeff Buckley - Lover you Should Have Come Over

C芒n yn y Car: Squarepusher - Square window

C芒n nos Wener: Ty - Ha Ha

C芒n Snog Gyntaf: Texas Radio Band - Rhan o Ni

C芒n Creu Argraff ar Ferch: Serge Gainsbourg - Histoire de Melody Nelson

C芒n Gyntaf mewn Parti: DJ Shadow - Organ Donor

Cas G芒n: Meinir Gwilym - Cymru/USA

Albym Gorau: Jeff Buckley - Grace

Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

91热爆 iD

Llywio drwy鈥檙 91热爆

91热爆 漏 2014 Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.