Main content

Podlediad Pigion y Dysgwyr, y 6ed o Chwefror 2024

Mynwent, Cerddoriaeth yn helpu'r cof, Snwcer, Steffan Rhodri, Codi Arian, Bryn Terfel

Pigion Dysgwyr – Bethesda

Buodd Aled Hughes yn ddiweddar yn Mynwent Tanysgrafell ym Methesda yng Ngwynedd. Mae’r fynwent wedi ei chau ers blynyddoedd ac wedi mynd yn flêr ac yn anniben ei golwg. Ond mae ‘na griw o wirfoddolwyr wedi bod yn ei thacluso ac yn gofalu amdani a dyma Sian Evans o Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd yn sgwrsio gydag Aled ac yn rhoi ychydig o hanes y fynwent..

Mynwent Cemetery

Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd Gwynedd Archaeological Trust

Ddaru nhw Wnaethon nhw

Ymchwil Research

Dogfennau Documents

Oes Victoria Victorian Age

Ehangu To expand

Bwriad Intention

Stad ddiwydiannol Industrial Estate

Pigion Dysgwyr – Robat Arwyn

Ychydig o hanes Mynwent Tanysgrafell yn fanna ar raglen Aled Hughes.
Mae ymchwil yn dangos bod cymryd rhan mewn gweithgareddau cerdd yn gallu helpu'r cof wrth i bobl fynd yn hŷn. Mae dau ddeg pum mil o bobl wedi bod yn rhan o astudiaeth ddangosodd bod gwell cof gan bobl oedd wedi bod yn chwarae offeryn neu oedd yn aelodau o gôr. Ydy hynny’n wir tybed? Wel dyma arweinydd Côr Rhuthun, Robat Arwyn, ar Dros Ginio bnawn Mawrth yn dweud pam ei fod e’n cytuno gyda’r astudiaeth...

Offeryn Instrument

Arweinydd Conductor

I gyd ar y cof All by heart

Arwyddion cerddorol Musical gestures

Cydsymud Coordination

Ymennydd Brain

Yn effro Awake

Gradd Grade

Gweddill y teulu The rest of the family

Pigion Dysgwyr – Snwcer

Felly dyna ni, os dych chi eisiau gwella eich cof ymunwch â chôr!
Cafodd Caryl Parry Jones gwmni Elfed Evans ar ei rhaglen nos Fawrth ddiwetha. Mae Elfed yn aelod o Glwb Snwcer Pwllheli a chafodd e gyfle i hyrwyddo’r clwb yn ei sgwrs gyda Caryl. Gofynnodd hi i Elfed ers pryd mae e wedi bod yn aelod o’r clwb…..

Hyrwyddo To promote

Wedi gollwng Dropped

Denu To attract

Poblogaidd popular

Pob gallu Every ability

Pigion Dysgwyr – Steffan Rhodri

Elfed o Glwb Snwcer Pwllheli oedd hwnna’n sgwrsio gyda Caryl Parry Jones.
Yr actor Steffan Rhodri oedd gwestai arbennig Bore Sul. Mae e wedi bod yn brysur iawn yn ddiweddar fel esboniodd e wrth Elliw Gwawr...

Yn ddiweddar Recently

Ar fin dod mas About to come out

Wedi ei gyfarwyddo Directed

Gwaith dur Steelworks

Teulu cyffredin Ordinary family

Ffoaduriaid Refugees

I raddau To an extent

Mae’n anochel It’s inevitable

Pigion Dysgwyr – Geraint Rowlands

Wel mae Steffan Rhodri wir wedi bod yn brysur yn ddiweddar on’d yw e?
Yn y clip nesa ‘ma byddwn yn clywed y patholegydd o Ysbyty’r Brifysgol yng Nghaerdydd, Geraint Lloyd Rowlands, yn sôn am sut buodd e’n codi arian er cof am Alan, ei ffrind o ddyddiau ysgol. Buodd Alan farw o Gancr y Pancreas dwy flynedd yn ôl, a dyma Geraint ar Bore Cothi ddydd Mercher diwetha i sôn mwy am yr her mae wedi ei chwblhau i gofio am ei ffrind...

Her A challenge

Wedi ei chwblhau Has completed

Campfa Gym

Wedi hen gyrraedd Easily reached

Ymdrech Effort

Pigion Dysgwyr – Bryn Terfel

Wel dyna wych, Llongyfarchiadau mawr i Geraint am gerdded mor bell er cof am ei ffrind, on’d ife?

Mae’r canwr opera Bryn Terfel newydd ryddhau albwm newydd, a chafodd Alun Thomas sgwrs gyda fe ar y rhaglen Bore Sul. Buodd Bryn yn sôn am yr adeg pan ganodd e ddeuawd gyda Sting. Gofynnodd Alun iddo fe sut wnaeth e gyfarfod â’r canwr pop enwog am y tro cynta

Newydd ryddhau Just released

Deuawd Duet

Cyngerdd mawreddog A grand concert

Cefn llwyfan Backstage

Arddull Style

Cysylltiad Connection

Cychod Boats

Rhediad A run

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

13 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar 91Èȱ¬ Radio Cymru,

Podlediad