Main content

Podlediad Pigion y Dysgwyr y 12fed o Ragfyr 2023.

Dysgu Cymraeg, Edward H, Goleuo ffenestri, Cymraeg yn y gwaith, Gwirfoddoli, Caru'r dolig

Pigion 12fed Rhagfyr:

1 Bore Coth:

Pan oedd Sh芒n Cothi yn darlledu o鈥檙 Ffair Aeaf yn Llanelwedd yn ddiweddar, mi wnaeth hi gyfarfod 芒 dwy fenyw, sef Francis Finney a Marcia Price. Roedd y ddwy wedi penderfynu dysgu Cymraeg, felly dyma eu gwahodd ar Fore Cothi am sgwrs:

Darlledu Broadcasting
Cancr y fron Breast cancer
Diolch byth Thank goodness
Dipyn bach yn iau A little bit younger

2 Beti a鈥檌 Phobol:

Francis a Marcia oedd y ddwy yna, ac mi roedden nhw wedi dysgu Cymraeg yn wych gyda Dysgu Cymraeg Gwent yn doedden nhw?

Prif ganwr y band Edward H. Dafis, Cleif Harpwood, oedd gwestai Beti George nos Sul diwetha. Mae cwmni recordiau Sain newydd ryddhau casgliad o holl draciau鈥檙 band iconig hwn, er mwyn dathlu hanner can mlynedd ers iddyn nhw ffurfio. Yma mae Cleif yn s么n am ei ddyddiau efo鈥檙 bandiau Edward H Dafis ac Injaroc:

Rhyddhau To release
Cerddorion penna(f) Leading musicians
Yn eitha disymwth Quite suddenly
Y gynulleidfa The audience
Arbrofi To experiment
Atgas Obnoxious
Y fath wawd Such scorn
Bradwyr Traitors
Cyfoes Modern
Esblygu To evolve

3 Trystan ac Emma Gwener 1af Rhagfyr:

Hanes diddorol bywyd byr y band Injaroc yn fanna gan Cleif Harpwood.

Bob Nadolig dros gyfnod yr Adfent mae trigolion pentref Corris ger Machynlleth yn addurno eu ffenestri. Ar Trystan ac Emma yn ddiweddar mi fuodd un sy鈥檔 byw yn y pentre, sef Elin Roberts, yn sgwrsio am y traddodiad arbennig yma yn y pentref:

Addurno To decorate
Dadorchuddio To unveil
Ymgynnull To congregate
Cynllunio To plan
Goleuo To light

4 Aled Hughes:

Yn tydy hi鈥檔 braf gweld yr holl oleuadau Dolig yng nhai pobl yr adeg hon o鈥檙 flwyddyn? Da iawn pobl Corris am wneud y mwya o gyfnod yr Adfent.

Drwy鈥檙 wythnos diwetha ar ei raglen mi fuodd Aled Hughes yn siarad efo gwahanol unigolion sydd wedi cymryd rhan yn ymgyrch Defnyddia Dy Gymraeg Comisiynydd yr Iaith. Mae鈥檙 sgyrsiau yn pwysleisio sut mae defnyddio鈥檙 Gymraeg wedi bod o fantais yn y gwaith o ddydd i ddydd. Yn y clip yma mae Aled yn sgwrsio efo Gareth Williams, un o hyfforddwyr y Scarlets am sut mae o鈥檔 defnyddio鈥檙 Gymraeg yn ei waith:

Mantais Advantage
Hyfforddwyr Coaches
Cyfathrebu Communicating
Y prif nod The main aim
Carfan Squad
Cryn dipyn Quite a few
Agwedd Aspect
Adborth Feedback
Unigolyn Individual
Cyfarwydd Familiar

5 Dros Ginio:

Gareth Williams oedd hwnna鈥檔 gweld mantais mawr mewn defnyddio鈥檙 Gymraeg i gyfathrebu efo aelodau o garfan y Scarlets.

Ddydd Mawrth y 5ed o Ragfyr roedd hi鈥檔 Ddiwrnod Rhyngwladol Gwirfoddoli. Mae Ruth Marks o Gyngor Gweithredu Gwirfoddoli Cymru, wedi dweud fod y sector o dan bwysau ofnadwy. Hedd Thomas, o鈥檙 Cyngor, a Gwenno Parry sy鈥檔 gwirfoddoli gyda Radio Ysbyty Gwynedd fuodd yn tafod hyn efo Jennifer Jones ar Dros Ginio:

Gwirfoddoli To volunteer
Pwysau Pressure
Argyfwng Crisis
Gostyngiad Reduction
Cyfleoedd Opportunities
Cynrychioli To represent
Trafferthion Problems
Difrifol Serious
Newydd raddio Just graduated
Wedi bod wrthi Been at it

6 Ifan Jones Evans:

Wel dyna ni , tasech chi eisiau helpu allan efo鈥檙 gwaith gwirfoddoli cysylltwch 芒鈥檙 mudiad gwirfoddoli lleol. Dw i鈥檔 si诺r bydd yna ddigon o gyfleodd i chi.

Brynhawn Mercher diwetha, cychwynnodd Ifan ar gyfres newydd o sgyrsiau ar ei raglen. Mae o鈥檔 trafod hoff bethau鈥檙 Dolig gyda gwestai arbennig bob wythnos, o rwan tan Dolig. A dechreuodd o mewn steil a hynny yng nghwmni Gary Slaymaker:

Cymdeithasu To socialise
Cwrdda lan To meet up
Ymwybodol Aware
Sbort Hwyl
Yn llethol Overwhelming
Nadoligaidd Christmasy
Emynau Hymns
Cytgan Refrain
Nefolaidd Heavenly

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

16 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar 91热爆 Radio Cymru,

Podlediad