Podlediad Pigion y Dysgwyr Medi'r 19eg 2023
Podlediad Newydd, Tomatos, La Liga, Fflemeg, Daeargryn, Clwb Ifor Bach, Ysgol Penweddig
Pigion Dysgwyr – Podlediad I Fyfyrwyr
Bore Llun diwetha cafodd Aled Hughes sgwrs ar ei raglen gyda Cerith Rhys-Jones a Steffan Alun Leonard. Mae’r ddau wedi rhyddhau podlediad newydd o’r enw 'Sgwrsio am Brifysgol' sy'n rhoi blas i ddarpar-fyfyrwyr ar beth yw bywyd coleg, gyda phrofiadau myfyrwyr go iawn.
Rhyddhau To release
Darpar-fyfyrwyr Prospective students
Rhannu profiadau Sharing experiences
Gwerthfawr Valuable
Cyflwyno To present
Teimlo’n gartrefol Feeling at home
I ryw raddau To some extent
Yn gwmws Yn union
Rhinwedd Merit
Mewnwelediad Insight
Trawstoriad eang A wide cross-section
Pigion Dysgwyr – Tomatos
Podlediad gwerthfawr iawn ac amserol hefyd gyda chymaint o fyfyrwyr yn cychwyn ar eu taith brifysgol yn ystod y mis hwn.
Ychydig wythnosau yn ôl ar Pigion clywon ni sgwrs rhwng Adam Jones sef Adam yn yr Ardd a Shan Cothi. Rhoddodd Adam her i Shan i dyfu tomatos ac adrodd yn ôl ar ddiwedd yr haf ar sut aeth pethau. Dyma ddarn o’r sgwrs gafodd y ddau wythnos diwetha….
Her A challenge
Teimlo fel oes Feels like ages
Crasboeth Scorched
Yn y cnawd In the flesh
Awdurdod Authority
Pencampwyr Champions
Carotsen Moronen
Llawn cystal Just as good
Iseldiroedd Netherlands
Chwerw Bitter
Pigion Dysgwyr – Fflemeg
Wel pwy fasai’n meddwl mai rhywun o’r Iseldiroedd sy’n gyfrifon am liw oren moron, on’d ife!
Iseldireg wrth gwrs yw iaith y wlad honno, ond mae hi hefyd yn cael ei siarad mewn rhan o Wlad Belg sef Fflandrys.
Ac yn Fflandrys yn ddiweddar mae'r Gweinidog Addysg wedi cyhoeddi cynlluniau i wneud Iseldireg yn unig iaith yr iard ysgol.
Mae’r Dr Guto Rhys, yn byw ac yn magu ei blant yn Fflandrys a dyma fe i esbonio mwy am y sefyllfa ar Dros Ginio bnawn Mawrth……
Cenhedlaeth Generation
Tafodieithoedd Dialects
Cymhleth Complicated
Pryder A concern
Gorfodi To compel
Tybio To presume
Anniddigrwydd Discontent
Anghyfleus Inconvenient
Iaith leiafrifol Minority language
Iaith rymus A powerful language
Pigion Dysgwyr – Bethan Rhys Roberts
Hanes sefyllfa gymhleth ieithoedd Gwlad Belg yn fanna gan Dr Guto Rhys.
Mae’n wythnos a hanner bellach ers i ddaeargryn nerthol daro dinas Marrakech ac ardaloedd cyfagos. Un oedd yn y ddinas ar y pryd oedd Bethan Rhys Roberts, un o newyddiadurwyr 91Èȱ¬ Cymru. Dyma hi ar raglen Bore Sul yn esbonio beth ddigwyddodd ar yr union eiliad pan darodd y daeargryn……
Daeargryn nerthol A powerful earthquake
Hynafol Ancient
Strydoedd culion Narrow streets
Sŵn byddarol A deafening noise
Dychrynllyd Frightening
Ymgynnull To congregate
Llafnau Slabs
Dymchwel To collapse
Sgrialu Scrambling
Anhrefn Disarray
Yn reddfol Instinctively
Pigion Dysgwyr – La Liga
Ac yn drist iawn wrth gwrs buodd miloedd o bobl farw ym Morocco yn dilyn y daeargryn. Bethan Rhys Roberts yn fanna yn rhoi syniad i ni o’r sefyllfa ddychrynllyd ym Marrakesh.
Mae tîm pêl-droed pentre Llanfairpwll ar Ynys Môn wedi cael noddwyr newydd ar gyfer y tymor newydd. Mi fydd enw’r gynghrair Sbaenaidd - LaLiga - ar flaen crysau'r chwaraewyr eleni. Ie wir, darn o España ar dir Ynys Môn.
Hannah Thomas ydy ysgrifennydd y tîm, a dyma hi i esbonio mwy ar Dros Frecwast fore Mercher
Noddwyr Sponsors
Ysgrifennydd Secretary
Yn raddol Gradually
Pwyllgor Committee
Manteision Advantages
Hogia Bechgyn
Diolchgar Thankful
Denu To attract
Pigion Dysgwyr – Clwb Ifor Bach
Wel dyna ni, tybed fyddwn ni’n gweld Llanfairpwll yn chwarae yn erbyn Barcelona neu Real Madrid yn y dyfodol!
Dych chi wedi ymweld â Chlwb Ifor Bach yng Nghaerdydd erioed? Sefydlwyd y clwb bedwar deg o flynyddoedd yn ôl er mwyn rhoi llwyfan i fandiau Cymraeg chwarae, a hefyd fel man ble gallai siaradwyr Cymraeg y Brifddinas ddod i gymdeithasu. Nos Sul darlledwyd rhaglen i nodi y garreg filltir bwysig, hon ac mae cyfle wrth gwrs i chi wrando ar y rhaglen gyfan ar 91Èȱ¬ Sounds…..
Llwyfan A stage
Darlledwyd Was broadcast
Carreg filltir Milestone
Sylfaenwyr Founders
Cyfeddach Companionship
Hwb cymdeithasol Social hub
Sefydliad Establishment
Cynhyrchydd Producer
Pigion Dysgwyr – Rhys Taylor
Sefydliad arall oedd yn dathlu carreg filltir arbennig oedd Ysgol Gyfun Penweddig, Aberystwyth, a dathlu pumdeg o flynyddoedd ers ei sefydlu oedd yr ysgol hon. Cafodd y cerddor Rhys Taylor sgwrs gyda Caryl Parry Jones wythnos diwetha gan fod Rhys yn gyn-ddisgybl yr ysgol. Nos Sadwrn roedd e’n un oedd yn cymryd rhan mewn cyngerdd yn Nghanolfan y Celfyddydau y dre fel rhan o’r dathliadau
Cerddor Musician
Breintiedig Privileged
Oes euraidd Golden age
Preswyl Residential
Cerddorfeydd Orchestras
Brolio To boast
T’mod Rwyt ti’n gwybod
Podlediad
-
Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Podlediadau amrywiol ar gyfer pobol sy’n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd.