Podlediad Pigion y Dysgwyr Awst 22ain 2023
Hiraethog, Brechu, Drws y Coed, Eisteddfod 1956, Jazz, Deintyddiaeth
Pigion Dysgwyr – Hiraethog
Mae yna ymgyrch ymlaen ar hyn o bryd gan Twristiaeth Gogledd Cymru i ddenu ymwelwyr i ardal Hiraethog yng ngogledd Cymru.
Sara Gibson oedd yn cadw sedd Aled Hughes yn gynnes wythnos diwetha wrth i Aled gymryd gwyliau bach ar ôl yr Eisteddfod. Dyma Eifion Jones o Lansannan, yn siarad â Sara am yr ardal arbennig hon
Ymgyrch Campaign
Denu To attract
Ywen Yew
Cynaliadwy Sustainable
Murluniau Murals
Cerflun Statue
Taflunydd Projector
Pererinion Pilgrims
Treffynnon Holywell
Pigion Dysgwyr – Brechu
Disgrifiad o ardal Hiraethog yn fanna gan Eifion Jones.
Gyda’r sôn bod straen newydd o Covid wedi ymddangos cafodd Beti George sgwrs ar Beti a’i Phobol gyda meddyg teulu ddaeth i amlygrwydd ar ddechrau’r pandemig. Chwaraeodd Dr Eilir Hughes ran bwysig wrth geisio rheoli Covid-19 yn ei gymuned.
Cafodd ei enwebu am ei waith ar gyfer un o wobrau Dewi Sant a dyma Beti yn ei holi …
Amlygrwydd Prominance
Enwebu To nominate
Sefydlu To establish
Brechu To vaccinate
Pellter Distance
Rhwystredigaeth Frustration
Darparu To provide
Cyflawnoch chi gampweithiau You achieved great things
Gwirfoddolwyr Volunteers
Herio To challenge
Pigion Dysgwyr – Drws y Coed
Gan obeithio na fydd rhaid i Dr Eilir Hughes gyflawni campweithiau tebyg yn y dyfodol agos on’d ife?
Yr wythnos diwetha ar raglen Dei Tomos aeth Dei â’r gwrandawyr ar daith i ardal Drws y Coed yn Eryri. Dyma Bob Morus yr hanesydd lleol i sôn am rywbeth ddigwyddodd i gapel Drws y Coed yn 1892
Anferthol Huge
Ailadeiladu To rebuild
Difrod Damage
Addoliad Worship
O’r herwydd As a consequence
Oedfaon Services
Anghydffurfiol Nonconformist
Olion Remains
Amlinell Outline
Helaethu To extend
Pigion Dysgwyr – Eisteddfod 1956
Bob Morus oedd hwnna’n adrodd hanes capel Drws y Coes gyda Dei Tomos.
Gyda'r miloedd erbyn hyn wedi gadael Boduan ac Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd, mae yna edrych ymlaen mawr at Eisteddfod 2024 yn Rhondda Cynon Taf. Dydy'r Eisteddfod ddim wedi bod yn yr ardal honno ers 67 o flynyddoedd. Aberdâr yng Ngwm Cynon oedd y lleoliad ym 1956, ac ar Dros Frecwast yr wythnos diwetha buodd Alun Thomas yn siarad â rhai o drigolion y cwm oedd yno bryd hynny, gan gynnwys yr actores Gaynor Morgan Rees cafodd ei magu yn yr ardal. Oedd yr eisteddfod honno’n wahanol i eisteddfodau’r dyddiau hyn tybed?
Trigolion Residents
Dawnsio gwerin Folk dancing
Ymgasglu To congregrate
Emynau Hymns
Cerflun Statues
Seremoni cyhoeddi Proclamation ceremony
Profiad gwefreiddiol A thrilling experience
Cymeradwyo Applauding
Bythgofiadwy Unforgettable
Pigion Dysgwyr – Dill Jones
Wel mae’n amlwg bod Gaynor Morgan Rees , a dw i’n siŵr llawer iawn o drigolion Rhondda Cynon Taf yn edrych ymlaen yn arw at y Steddfod.
Dych chi wedi clywed am Dill Jones o Gastell Newydd Emlyn? Wel yr wythnos diwetha roedd hi’n ganrif ers iddo fe gael ei eni. Roedd e’n feistr ar y piano ac yn enwedig ar arddull y Stride sef math o jazz oedd yn boblogaidd yn 20au a 30au’r ganrif ddiwetha.
Dyma’r cerddor jazz Tomos Williams yn sgwrsio gyda Bethan Rhys Roberts ar Bore Sul am fywyd Dill Jones…..
Canrif Century
Arddull Style
Trwy gydol ei yrfa Throughout his career
Ymwybodol iawn Very aware
Cymreictod Welshness
Angerdd Passion
Yn gwmws Exactly
Crebwyll Creativity
Cyd-destun Context
Trwytho Immersed
Pigion Dysgwyr – Deintyddiaeth
Hanes y pianydd jazz Dill Jones yn fanna ar Bore Sul.
Dydd Iau diwetha ar Dros Ginio cafodd Gwenllian Grigg gwmni Siwan Phillips, sydd ar ei blwyddyn ola’n astudio deintyddiaeth ym Mhrifysgol Bryste. Gofynnodd Gwenllian iddi hi yn gynta faint oedd ei hoedran hi pan benderfynodd mai deintydd oedd hi am fod?
Profiad gwaith Work experience
Deintyddfa Dentist surgery
Amgylchedd gweithio Working environment
Mantais Advantage
Digwydd bod As it happens
Hynod o hir Extremely long
Cystadleuol Competitive
Podlediad
-
Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Podlediadau amrywiol ar gyfer pobol sy’n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd.