Main content

Podlediad Pigion y Dysgwyr 4ydd o Orffennaf 2023

Caws, Glastonbury, Meddygaeth, Podlediad Paid Ymddiheuro, Porthcawl, Corau

Pigion Dysgwyr – Carie Rimes

Perchennog Llaethdy Gwyn ym Methesda yng Ngwynedd yw Carie Rimes. Sgwrsiodd Carie gyda Shan Cothi wythnos diwetha, am wobr mae’r llaethdy newydd ei hennill ennill, sef y caws Cymreig gorau yng ngwobrau artisan Gwyl Gaws Melton Mowbray, a hynny am y trydydd gwaith yn olynol.

Perchennog llaethdy Dairy owner

Gwobr Award

Yn olynol In succession

Llefrith dafad Sheep’s milk

Unigryw Unique

Tueddu i Tends to

Llwyddiant Success

Pigion Dysgwyr – Glastonbury

A llongyfarchiadau mawr i Laethdy Gwyn am ennill y wobr fawr on’d ife?
Ar Dros Ginio yn ddiweddar cafodd Cennydd Davies air gyda’r hanesydd pop Phil Davies. Buodd Phil yn edrych yn ôl dros Ŵyl Glastonbury gafodd ei chynnal yng Ngwlad yr Haf yn ddiweddar…….

Gwlad yr Haf Somerset

Darnau Pieces

Digon rhwydd Easy enough

Ro’n i’n synnu braidd I was rather surprised

Amau To suspect

Denu To attract

Fel mae’r sôn Apparently

Ei bai hi oedd o It was her fault

Pigion Dysgwyr – Dr Owain Rhys Hughes

Ddim pawb wedi plesio Phil Davies yn Glastonbury felly!
Gwestai Beti George ar Beti a’i Phobol yr wythnos diwetha oedd Dr Owain Rhys Hughes . Mae’n dod yn wreiddiol o Benmynydd ar Ynys Môn, ac esboniodd e wrth Beti ychydig am system o’r enw Synapsis sef meddalwedd sy’n galluogi doctoriaid teulu i gael mynediad i system sy’n siarad gyda’r ysbyty a'r arbenigwyr

Meddalwedd Software

Galluogi To enable

Arbenigwyr Specialists

Yn rhad ac am ddim Free of charge

Cystadleuaeth Competition

Hyd yn oed Even

Pigion Dysgwyr – Dros Ginio

Dr Owain Rhys Hughes oedd hwnna’n esbonio pam bod Synapsis yn cael ei ddefnyddio yn Lloegr ond ddim yng Nghymru.
Mae dwy fyfyrwraig o Ysgol Feddygaeth Caerdydd newydd gyhoeddi podlediad dan y teitl Paid Ymddiheuro. Elin Bartlett a Celyn Jones Hughes ydy eu henwau nhw, a dydd Mawrth diwetha ar Dros Ginio cafodd y ddwy sgwrs gyda Jennifer Jones. Dyma Elin yn gynta i i ddweud pam aeth hi ati i greu’r podlediad

Wastad Always

Unigol Individual

Gwragedd Women

Pigion Dysgwyr – Porthcawl

Doedd gan Celyn fawr o ddewis cymryd rhan nag oedd?
Aeth Caryl Parry Jones â ni i Borthcawl wythnos diwetha yng nghwmni Richard Howe ar gyfer yr eitem 24 awr yn…Dechreuodd Richard drwy sôn am ei fagwraeth yn y dre…

Magwraeth Upbringing

Ers sawl blwyddyn for a number of years

Cefn gwlad The countryside

Mas o’m cynefin Out of my habitat

Gwylanod Seagulls

Heidio To flock

Pigion Dysgwyr – Mari Pritchard

Richard Howe yn amlwg yn falch iawn o’i wreiddiau ym Mhorthcawl.
Cafodd Shan Cothi sgwrs gyda Mari Pritchard ar ei rhaglen yr wythnos diwetha. Mae Mari wedi bod yn brysur ar hyd y blynyddoedd yn hyfforddi ac yn arwain corau yn y gogledd yn ogystal â gweithio ym maes Theatr Ieuenctid. Dyma hi i sôn mwy am ei magwraeth ym mhentre Rhosmeirch ar ynys Môn

Cyflawni To achieve

Anferthol Huge

Meithrin To nurture

Dawn Talent

Cyfathrebu To communicate

Ffin Border

Ydy glei of course it is

Elwa To gain

Heriol Challenging

Ysbryd Spirit

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

12 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar 91Èȱ¬ Radio Cymru,

Podlediad