Main content

Podlediad Pigion y Dysgwyr 13eg o Fehefin 2023

Pysgod a Sglodion, Trefaldwyn, Crempogau, Dafydd Hywel, Nefyn, Merched y Wawr

Pigion Dysgwyr - Aled Hughes

Mae Siop Tir a Môr yn Llanrwst wedi ennill y wobr am siop Pysgod a Sglodion orau Gogledd Cymru gan ddarllenwyr y Daily Post. Aeth Aled Hughes draw i siarad â pherchennog y siop Wyn Williams yn ddiweddar..

Ddaru ni Wnaethon ni

Estyniad Extention

Yn werth ei weld Worth seeing

Llymaid A swig

Coelio Credu

Gwaith haearn Iron works

Gwyrth Miracle

Caniatâd Permission

Sefyll yn llonydd Standing still

(H)wyrach Efallai

Pigion y Dysgwyr – Myfanwy Alexander

Llongyfarchiadau i Tir a Môr on’d ife? Mae’r bwyd yn swnio’n flasus iawn.
Dych chi wedi bod yn Nhrefaldwyn o gwbl? Mae hi’n dref hanesyddol ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, ac yn dref oedd yn boglogaidd iawn gyda Julie Christie a Salman Rushdie. Dyma Myfanwy Alexander yn dweud mwy wrth Rhys Mwyn...

Y ffin The border

Hamddenol Leisurely

Ling di long At your own pace

Awyrgylch Atmosphere

Bodoli To exist

Pensaerniaeth Architecture

Ffynnu To thrive

Llonyddwch Tranquillity

Cuddio To hide

Pigion Dysgwyr – Carwyn Graves

Mae Myfanwy Alexander yn amlwg yn meddwl y byd o’r dref fach bert ym Mhowys – Trefaldwyn.
Gwestai Beti George ar Beti a’i Phobl yr wythnos diwetha oedd yr hanesydd bwyd Carwyn Graves. Dyma fe i roi ychydig o hanes y crempog …..

Pancos Crempogau

Llydaw Brittany

Delwedd image

Marchnata Marketing

Yn sgil hynny Because of that

Dydd Mawrth Ynyd Shrove Tuesday

Lletygarwch Hospitality

Y cynnyrch The produce

Anghofiedig Forgotten

Hynafol Ancient

Pigion Dysgwyr – Sharon Morgan

Ie wir, mae’r crempog yn rhy flasus i’w gadw at Ddydd Mawrth Ynyd yn unig , on’d yw e?
Buodd yr actor Dafydd Hywel farw yn diweddar ac ar Bore Cothi wythnos diwetha clywon ni’r actores Sharon Morgan, sy’n perthyn i Dafydd, yn edrych yn ôl ar ei yrfa.

Dirdynnol Poignant

Munud o dawelwch A minute’s silence

Dan ofalaeth Under the supervision of

Ysbrydoliaeth Inspiration

Llwyfan Stage

Aruthrol Stupendous

Darlledu To broadcast

Dawn anhygoel Incredible talent

Cofiadwy Memorable

Pigion Dysgwyr – Caryl

Mari Grug oedd yn cadw sedd Shan yn gynnes yn fanna ac yn sgwrsio gyda Sharon Morgan, a
bydd colled mawr ar ôl Dafydd Hywel, mae hynny’n sicr.
O dro i dro mae Caryl Parry Jones ar ei rhaglen yn ‘treulio 24 awr yn…’ sef cyfle i bobl sôn am beth sydd i’w wneud yn rhai o bentrefi a threfi Cymru. Tro Nefyn ym Mhen Llŷn oedd hi yr wythnos diwetha a chafodd Caryl sgwrs gyda Mared Llywelyn am yr hyn sydd i’w wneud yn y dref….

Digwydd bod Happened to be

Harddwch Beauty

Rhyngwladol International

Llongau Ships

Penwaig herrings

Amgueddfa Forwrol Maritime Museum

Pigion Dysgwyr – Dei Tomos

Dw i’n siŵr bod Nefyn wedi bod yn brysur iawn yn ystod y tywydd braf yma, mae’n lle hyfryd iawn.
Cyn athrawes Gymraeg o Ddinbych yw golygydd newydd cylchgrawn Merched y Wawr sef Y Wawr. Cafodd Dei Tomos gyfle i sgwrsio gydag Angharad Rhys yr wythnos diwetha am ei rôl newydd.

Golygydd Editor

Rhifyn Edition

Cynrychiolydd rhanbarth Regional representative

Profiad Experience

Golygu To edit

Cyfrannu To contribute

Croesair Crossword

Mewn trafferth In difficulty

Ymgymryd â To undertake

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

12 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar 91Èȱ¬ Radio Cymru,

Podlediad