Main content

Podlediad Pigion y Dysgwyr 23ain o Fai 2023

Dysgu Cymraeg, Johnny Cash, Y Mor, Gwinio, Seiclo un Olwyn, Banc Bwyd Arfon

Pigion Dysgwyr – Ewan Smith

...ar ei raglen wythnos diwetha cafodd Aled Hughes sgwrs gydag awdur sydd hefyd yn siaradwr Cymraeg newydd, ac wedi dysgu Cymraeg i lefel uchel iawn. Ewan Smith yw ei enw, a dyma Aled yn ei holi’n gynta am ble yn union mae e’n byw…

Cylchgronnau Merched Women’s magazines

Aelod Member

Hen Ferchetan Old Maid (title of folk song)

Prif gymeriad Main character

Am hwyl For fun

Gwasg Press

Cyhoeddi Publish

Yn seiliedig ar Based on

Yn addas i Suitable for

Pigion Dysgwyr – Wil Rowlands

Ewan Smith oedd hwnna’n sôn am ei nofel Hen Ferchetan sydd yn addas i ddysgwyr lefel Canolradd ac Uwch.
Gwestai Beti George yr wythnos hon oedd yr artist o Ynys Môn, Wil Rowlands. Esboniodd Wil wrth Beti sut cwrddodd e â dau eicon enwog ar yr un diwrnod. Un oedd Andy Warhol a dyma Wil i esbonio pwy oedd y llall...

Hap a damwain llwyr Pure luck

Efrog Newydd New York

Ynghlwm â Connected to

Cynhadledd Conference

Waeth i mi I might as well

Cyfarwydd familiar

Pen ar gam Head tilted

Wedi llorio Floored

Difaru To regret

Manteisio To take advantage of

Pigion Dysgwyr – Valmai Rees

Cwrdd â Johnny Cash ond methu â chofio ei enw, doniol on’d ife?
Roedd tad Valmai Rees o Foelfre ar Ynys Môn, yn gapten ar longau masnach ac yn cael teithio’r byd gyda’i swydd. Ond yr hyn sydd yn arbennig am Valmai yw ei bod hi a’i mam yn cael teithio gyda fe ar rai o’r teithiau yma. Ar raglen Dei Tomos yn ddiweddar buodd Valmai’n sôn wrth Dei am y profiad hwnnw…

Llongau masnach Merchant ships

Morwrol Sea-faring

Del Pert

Hynod o hardd Extremely pretty

Ganwyd fi I was born

Cefnforoedd Oceans

Dim mymryn o ofn No fear whatsoever

Pigion Dysgwyr – Debra Drake

Hanes teulu morwrol Valmai Rees yn fanna ar raglen Dei Tomos.
Ar Bore Cothi ddydd Mawrth cafodd Shan air gyda Debra Drake. Mae Debra wedi bod ar gyfres Sewing Bee ar y teledu. Dyma Debra yn dweud wrth Shan beth mae hi wedi bod yn ei wneud ers iddi hi fod ar y gyfres….

Cyfres Series

Andros o dda Really good

Gwnïo neu wau Sewing or knitting

Gwaith saer Carpentry

Cyflawni rhywbeth To achieve something

Campwaith Masterpiece

Goro Gorfod

Pigion Dysgwyr – Seiclo

…ac mae Debra Drake wedi bod yn brysur iawn ers iddi fod ar Sewing Bee on’d yw hi?
Gwahoddodd Caryl Parry Jones Ben a Brond o Glwb Hoci Un Olwyn Caerdydd, i gael sgwrs fach ar ei rhaglen nos Fercher. Dyw Caryl erioed wedi eistedd ar feic un olwyn, a gofynnodd hi i Ben yn gynta ers pryd roedd e’n seico fel hyn…

Olwyn Wheel

Poblogaidd Popular

Ymunais i â I joined

Pigion Dysgwyr – Trey McCain

Mae angen dipyn o sgil i chwarae hoci ar feic un olwyn on’d oes?
Yn ddiweddar buodd Aled Huws ar ymweliad â Banc Bwyd Arfon ac yno gafodd air gyda Trey McCain, Americanwr sydd wedi dysgu Cymraeg yn rhugl. Dyma Trey yn sôn am pwy, a faint o bobl sydd yn ymweld â’r banc bwyd y dyddiau hyn…..

Wedi cynyddu’n sylweddol Has increased substantially

Yn ddiweddar Recently

Yn gyson Consistently

Profi caledi Suffering hardship

Cywilydd Shame

Cyfathrebu To communicate

Hanfodol Essential

Ti bo Rwyt ti’n gwybod

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

14 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar 91Èȱ¬ Radio Cymru,

Podlediad