Podlediad Pigion y Dysgwyr 25ain o Ebrill 2023
Chwerthin, Awstralia, Ysbrydion, Y Cob, Nofelau, Un Nos Ola Leuad
Pigion Dysgwyr – Nia Williams
Cafodd Aled Hughes gwmni y seicolegydd Nia Williams yr wythnos diwetha i drafod chwerthin. Pam bod ni chwerthin tybed, a pha effaith mae chwerthin yn ei gael ar y corff? Dyma Nia’n esbonio...
Chwerthin Laughter
Treiddio i mewn To penetrate
Ymwybodol Aware
Ysbrydoli To inspire
Cadwyn A chain
Pryderus Concerned
Dygymod efo To cope with
Dychwelyd To return
Parhau To continue
Pigion Dysgwyr – Andy Bell
Nia Williams oedd honna’n sgwrsio gydag Aled Hughes am chwerthin.
Am dros ganrif, Sydney oedd dinas mwyaf poblog Awstralia. Ond erbyn hyn Melbourne sydd gyda’r teitl hwnnw, ar ôl i ffiniau‘r ddinas newid i gynnwys rhannau o ardal Melton. Ond mae rhai 'Sydneysiders' fel mae nhw'n cael eu galw - yn anhapus - ac yn cwestiynu'r ffordd y mae Melbourne wedi mynd ati i ehangu. Cafodd y newyddiadurwr Andy Bell sy’n byw yn Awstralia air am hyn gyda Jennifer Jones ar Dros Ginio bnawn Mawrth…..
Canrif Century
Poblog Populous
Ffiniau Borders
Ehangu To expand
Diffiniad Definition
Maestrefi Suburbs
Tyfiant Growth
Tiriogaethau Territories
Taleithiau States
O ganlyniad As a consequence
Pigion Dysgwyr – Delyth Badder
Hanes brwydr dinasoedd Awstralia yn fanna gan y newyddiadurwr Andy Bell.
Mae Dr Delyth Badder yn casglu hanes llên gwerin o Gymru ac credu’n gryf bod gwahaniaeth rhwng yr ysbrydion sy’n cael eu gweld yng Nghymru a’r rhai sy’n cael eu gweld yng ngweddill gwledydd Prydain, fel y buodd hi’n egluro wrth Rhys Mwyn, nos Lun...
Llên gwerin Folklore
Ysbrydion Spirits
Cael eu crybwyll Being alluded to
Dros Glawdd offa Over Offa’s Dyke
Gwrachod Witches
Tylwyth teg Fairies
Amaethyddol Agricultural
Ystrydebol Stereotyped
Cynfas wen White sheet
Ystyrlon Meaningful
Pigion Dysgwyr – Cob
Wel dyna ni, mae hyd yn oed ein gwrachod a’n tylwyth teg yn wahanol yng Nghymru!
Yn ddiweddar buodd John Dilwyn yn sgwrsio gyda Dei Tomos ar ei raglen nos Sul am hanes adeiladu y Cob ym Mhorthmadog. Dyma John i sôn am William Alexander Maddox cynllunydd y Cob
Dyn dŵad A stranger
Ei hoel o His mark
Magwraeth freintiedig A privileged upbringing
Etifeddo eiddo To inherit property
Tirfeddiannwr Landowner
Bargyfreithiwr Barrister
Gwaed Gwyddelig Irish blood
Mi gladdwyd y tad His father was buried
Harddwch Beauty
Tynfa The pull
Pigion Dysgwyr – Caryl
Ac erbyn hyn wrth gwrs mae Ffordd Osgoi Porthmadog yn croesi’r Traeth Mawr, a does dim rhaid defnyddio’r Cob o gwbl.
Daw Pegi Talfryn o Seattle yn wreiddiol a daeth i Gymru ar ôl syrthio mewn cariad â’r Gymraeg a chwedlau Cymraeg. Mae hi’n diwtor Cymraeg erbyn hyn ac wedi sgwennu nofelau arbennig ar gyfer dysgwyr. Ond mae yna genre arbennig o lyfrau sydd yn apelio at Pegi ar hyn o bryd, a dyma hi’n sôn mwy am hynny wrth Caryl Parry Jones
Ffordd osgoi By-pass
Chwedlau Fables
Cyfuno To combine
Ffuantus Bogus
Annwfn The underworld
Pigion Dysgwyr – Aled Hughes
Pegi Talfryn oedd honna’n sôn am y math o lyfrau mae hi’n mwynhau eu darllen ar hyn o bryd.
Daw Marta Listewnik o Poznan yng Nghwlad Pwyl a dydd Iau sgwrsiodd Aled Hughes gyda hi am ei chariad at y Gymraeg, gan ddechrau gyda’r gwaith mae hi wedi ei wneud yn cyfieithu nofel Caradog Pritchard, Un Nos Ola Leuad i Bwyleg….
Gwlad Pwyl Poland
Pwyleg Polish
I ba raddau To what extent
Pa mor gyffredin How common
Cydbwysedd balance
Adolygiadau Reviews
Cyfleu To convey
Profiadau plentyndod Childhood experiences
Podlediad
-
Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Podlediadau amrywiol ar gyfer pobol sy’n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd.