Podlediad Pigion y Dysgwyr Ionawr 17eg 2023
Kath Morgan, Gareth Bale, Strydoedd Enwogion, Munud i Feddwl, Canolfan Soar.
Pigion Dysgwyr – Kath Morgan 8.1
Gwestai Beti George ar Beti a’i Phobl wythnos dwetha oedd cyn gapten pêl-droed merched Cymru, Kath Morgan. Mae angen bod yn berson hyderus iawn i gymryd y swydd honno on’d oes? Wel nid felly yn ôl Kath...
Cyn gapten Former captain
Yn falch Proud
Difaru To regret
Braint An honour
Ymfalchïo To be proud of oneself
Cyfrifoldeb Responsibility
Gormod o bwysau Too much pressure
Mynnu To insist
Cyfarwyddiadau Instructions
Pigion Dysgwyr 10.1 – Gareth Bale
O cyn-gapten tîm merched Cymru i gyn-gapten tîm dynion Cymru - Gareth Bale, a daeth y newyddion yr wythnos diwetha bod y pêl-droediwr enwog yn ymddeol. Dyma Nic Parri yn edrych yn ôl ar ei yrfa ar Dros Frecwast fore Mercher.
Cyfadde(f) To admit
Di-ri(f) Innumerable
Annisgwyl Unexpected
Ystyried To consider
Syllu To stare
Llusgo To drag
Pencampwriaeth Championship
Ysbrydoliaeth Inspiration
Aruthrol Huge
Breuddwydiol, euraidd Dreamy, golden
Yng nghysgod In the shadow
Pigion Dysgwyr – Aled Hughes 9.1
R’yn ni’n aros yng Nghaerdydd ar gyfer y clip nesa o raglen Aled Hughes. Cafodd Aled sgwrs gyda Tim Hartley am yr ymgyrch lwyddiannus i gael datblygwyr i ddefnyddio enwau Cymreig ar stad o dai sydd ar hen bencadlys 91Èȱ¬ Cymru yn Llandaf. Dyma Tim yn sôn mwy am hanes y pencadlys a rhai o’r strydoedd sydd wedi ei henwi ar ôl unigolion enwog.
Ymgyrch llwyddiannus A succesful campaign
Datblygwr Developer
Pencadlys Headquarters
Unigolion Individuals
Safle wreiddiol The original site
Darlledwr Broadcaster
Fel petai ysbrydion yna As if spirits were there
Cawr Giant
Cofnodi To record
Sefydlydd Founder
Cadw ar gof To keep on record
Pigion Dysgwyr - Alun Gibbard 13.1
Mae’n braf gweld bod enwau Cymraeg ar ardal sydd â hanes pwysig iawn o ran yr iaith, on’d yw hi? Mae Shan Cothi yn gwahodd rhywun i roi Munud I Feddwl i ni bob dydd. Mae’r rhan yma o’r rhaglen yn rhoi munud i ni feddwl a sefyll yn ôl o brysurdeb ein bywydau bob dydd. Tro Alun Gibbard oedd hi fore Gwener.
Dychmygwch Imagine
Coedwig Wood
Y tu draw Beyond
Tirwedd Landscape
Cysurus Comforting
Gwrando’n astud Listen closely
Cyfarwydd Familiar
Sefyll yn rhydd Freestanding
Ehangder The expanse
Pigion Dysgwyr – Vicky Alexander 11.1
Munud i Feddwl ar ffurf llun bach yn fanna gan Alun Gibbard.
Nos Fercher ar raglen Caryl cafodd hi sgwrs gyda Vicky Alexander o Lanbradach. Mae Vicky yn helpu yn Nghanolfan Soar ym Merthyr Tydfil a hi sydd yn rhedeg y siop lyfrau yno dyma hi i sôn mwy am y lle.
Enfys Rainbow
Cefnogi To support
Cynhesrwydd Warmth
Canolfan Gelfyddydol Arts centre
Creadigol Creative
Podlediad
-
Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Podlediadau amrywiol ar gyfer pobol sy’n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd.