Podlediad Pigion y Dysgwyr Rhagfyr 30ain 2022
Nadoligau a fu, Alwyn Sion, Twrci, Ironman, Nia Watcyn Powell a Chinio yn yr Aifft.
Troi’r Tir – Cofio’r Nadolig 18.12
Buodd Troi’r Tir yn hel atgofion am Nadoligau’r gorffennol. Un o’r rheini siaradodd ar y rhaglen oedd Bessie Edwards o Gribyn ger Llanbedr-Pont-Steffan, a dyma hi’n cofio dydd Nadolig oedd yn wahanol iawn i Nadoligau’r dyddiau hyn...
Hel atgofion Recollecting
Tylwyth Teulu
Arferiad A custom
Celyn Holly
Addurno To decorate
Dim byd neilltuol Nothing particularly
Melysion Sweets
Cyngerdd cystadleuol A competitive concert
Adloniant Entertainment
Bore Cothi – Alwyn Sion 20.12
Blas ar Nadoligau’r gorffennol yn fanna gydag atgofion Bessie Edwards.
Yn ystod wythnos y Nadolig ar Bore Cothi clywon ni Shan Cothi yn holi gwahanol bobl beth yw ystyr y Nadolig iddyn nhw. Dyma i chi Alwyn Sion yn sôn am sut oedd cymuned ffermio ardal Meirionnydd yn paratoi at yr Ŵyl…..
Gwyddau Geese
Nefoedd Heaven
Plentyndod Childhood
Prysurdeb Business
Pluo To pluck
Cynnau tân To light a fire
Llygad barcud A keen eye
Rhwygo To tear
Braster Fat
Glynu To stick
Aled Hughes Rysait Nadolig 19.12
Pluo twrci ar gyfer ei rostio oedd Alwyn a’i deulu mae’n debyg, ond nid dyna sut oedd hi ers talwm.
Dyma Elin Thomas yn esbonio wrth Aled Hughes sut oedd pobl yn coginio twrci yn y gorffennol pell...
Brodorol Native
Darganfod To discover
Y cyfnod Tuduraidd The Tudor Age
Poblogaidd Popular
Ymhlith Amongst
Bonheddig Aristocratic
Uchelgeisiol Ambitious
Y bedwaredd ganrif ar bymtheg 19th century
Ymarferol Practical
Cyfrol Tome
Trystan ac Emma – Iwan Jones 16.12
Dw i’n siŵr bod nifer ohonon ni wedi bwyta llawer gormod dros yr Ŵyl, ond mae angen i Iwan Jones o Lwynygroes ger Tregaron fod yn ofalus iawn faint a beth mae e’n ei fwyta, a hynny oherwydd ei fod yn hoff iawn o gystadlu mewn cystadlaethau Ironman. Mae Iwan newydd ddod yn ôl o’r Unol Daleithiau ar ôl cystadlu ym mhencampwriaeth Ironman y byd. Dyma fe’n esbonio wrth Trystan ac Emma sut mae paratoi at gystadleuaeth o’r fath...
Wedi bennu Wedi gorffen
Ymroddiad Commitment
Cyffwrdd To touch
Egni Energy
Yn feddyliol gryf Mentally strong
Llonydd Tranquil
Dros Ginio – Traddodiadau’r Nadolig 19.12
Iwan Jones oedd hwnna’n sôn am sut mae paratoi’n gorfforol ac yn feddyliol ar gyfer cystadleuaeth Ironman.
Ar Dros Ginio cafodd Dewi Llwyd sgwrs gyda’r hanesydd Nia Watkin Powell am hanes Gŵyl y Nadolig. Dyma i chi flas ar y sgwrs...
Cymharol diweddar Fairly recent
Cydnabuwyd Was acknowledged
I ryw raddau To some extent
Yr Ymerodraeth Rufeinig The Roman Empire
Mabwysiadu To adopt
Troad y rhod Solstice
Ailymddangos To reappear
Led-led Throughout
Wedi goroesi Has survived
Dynodi To note
Cofio – Nadolig 21.12
Diddorol on’d ife, bod cymaint o arferion y Nadolig wedi dod yn wreiddiol o’r oes cyn Crist.
Ac i orffen yr wythnos hon dyma glip o raglen Cofio gyda W J Jones o Fangor yn cofio cinio Nadolig anarferol gafodd e yn yr Aifft adeg yr Ail Ryfel Byd.
Yr Aifft Egypt
Y lluoedd arfog The Armed Forces
Gweinyddiaeth Administration
Rheidrwydd Necessity
Ufuddhau To obey
Pa mo afresymol bynnag However unreasonable be it
Byddent Basen nhw
Llw tragwyddol An eternal oath
Atgas Detestable
Yn awchus Eagerly
Podlediad
-
Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Podlediadau amrywiol ar gyfer pobol sy’n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd.