Podlediad Pigion y Dysgwyr Rhagfyr 20fed 2022
Radio Ysbyty, Bronwen Lewis, Banc Bwyd, Marc Howells, Joseph Gnagbo a Fferm Lysiau.
Radio Ysbyty – Codi Calon Claf 18.12
Nos Sul buodd Huw Stephens yn rhoi hanes dyddiau cynnar Radio Ysbyty Glangwli Caerfyrddin, gafodd ei sefydlu bum deg mlynedd yn ôl. Dyma i chi flas ar sgwrs gafodd Huw gyda sylfaenydd yr orsaf, y darlledwr Sulwyn Thomas
Cafodd ei sefydlu Was established
Sylfaenydd Founder
Darlledwr Broadcaster
Fy annwyl wraig My dear wife
Cadeirio Chairing
Ffodus Lwcus
Cymysgu’r sain Mixing the sound
Ro’n i’n methu’n deg I couldn’t at all
Aelod selog A faithful member
Ambell I Gan – Bronwen Lewis 11.12
Ychydig o hanes sefydlu Radio Ysbyty Glangwli yn fanna gan Sulwyn Thomas.
Cafodd Gwennan Gibbard gwmni’r gantores Bronwen Lewis ar y rhaglen Ambell i Gân. Gofynnodd Gwenan iddi hi yn gynta pwy sydd wedi dylanwadu arni hi
Dylanwadu To influence
Tyfu lan Tyfu fyny
Tad-cu Taid
Emynau Hymns
Traddodiadol Traditional
Yn grac Yn flin
Cyfweliad Interview
Swnllyd Noisy
Swynol Beautifully
Ffili Methu
Bore Cothi - Banc Bwyd Eglwys Crist 13.12
Bronwen Lewis oedd honna’n sôn am ei theulu cerddorol.
Dydd Mawrth ar Bore Cothi aeth Shan Cothi i Eglwys Crist Caerfyrddin ble mae aelodau’r eglwys wedi sefydlu banc bwyd ar gyfer y gymuned. Yn gyntaf dyma y Parchedig Delyth Richards gyda ychydig o gefndir y fenter
Parchedig Reverend
Esgob Bishop
Bendithio To bless
Addoli To worship
Cynnyrch Produce
Blwch Box
Yn gyson Regularly
Beti a’I Phobl – Marc Howells 18.12
Da iawn aelodau Eglwys Crist, ond dyw hi’n drueni bod rhaid agor banciau bwyd y dyddiau hyn?
Gwestai Beti George ar Beti a’i Phobol bnawn Sul oedd Marc Howells o Ddinbych yn wreiddiol, fe yw pennaeth Adnoddau Dynol y cwmni meddyginiaeth Astro Zeneca.
Adnoddau Dynol Human Resources
Meddyginiaeth Medicine
Llywodraethau Governments
Datblygu To develop
Diwydiant gwyrdd Green industry
Yr amgylchedd The environment
Aled Hughes – Joseff Gnagbo 14.12
Golwg bach gwahanol yn fanna ar waith y cwmni meddyginiaeth Astro Zeneca ar Beti a’i Phobol.
Bore Mercher cafodd Aled Hughes gwmni Joseff Gnagbo. Daw Joseff o’r Traeth Ifori yn wreiddiol cyn iddo fe orfod ffoi oddi yno. Erbyn hyn mae’n byw yng Nghymru ac yn rhugl yn y Gymraeg. Gofynnodd Aled iddo fe beth mae Cymru wedi ei gynnig iddo fe….
Gorfod ffoi Had to escape
Cyfrannu To contribute
Personoliaeth Personality
Ymladd To fight
Trefedigaeth Colony
Annibyniaeth Independence
Hyrwyddo To promote
Troi’r Tir – Jamie Stroud 12.12
Joseff Gnabo , wnaeth ffoi o’r Traeth Ifori , dod yn rhugl yn y Gymraeg ac sydd nawr yn gweithio fel tiwtor Cymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd. Gwych on’d ife?
Un arall sy wedi dysgu Cymraeg ydy Jamie Stroud sy’n gweithio ar fferm lysiau gydweithredol Tyddyn Teg ger Caernarfon. Mae’r fferm yn cyflenwi 170 o focsys llysiau yr wythnos i’r gymuned leol yn ogystal â chynnal siop fferm, becws a llysiau i siopau a bwytai lleol. Buodd Jamie ar raglen Troi’r Tir ddydd Llun i esbonio mwy am waith y fferm
Cydweithredol Cooperative
Cyflenwi To supply
Hinsawdd Climate
Bwydydd Cyflawn Wholefoods
Anarferol Unusual
Pannas Parsnips
Cynhaeaf To harvest
Meithrinfa planhigion Plant nursery
Hau hadau Sowing the seeds
Cnwd Crop
Bresych Cabbage
Podlediad
-
Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Podlediadau amrywiol ar gyfer pobol sy’n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd.