Main content

Podlediad Pigion y Dysgwyr Rhagfyr 13eg 2022

Hoff garol, Llanllwni, Beti A'i Phobol, Dau cyn Dau, Manaweg ac Addurno.

Bore Cothi – Rhys Taylor 5.12

Beth yw eich hoff garol Nadolig? Falle cewch gyfle i glywed y band jazz, Rhys Taylor a’i Fand, yn ei pherfformio ar Carioci Carolau Cothi cyn y Nadolig. Dyma Rhys Taylor ei hun ar raglen Bore Cothi wythnos diwetha yn sôn am ei hoff garolau e....

Traddodiadol Traditional

Morio canu Singing their hearts out

Poblogaidd Popular

Amrywiaeth Variety

Sioeau cerdd Musicals

(Carolau) plygain Traditional Welsh carols

Trefniant Arrangement

Cydio To grasp

Croen gwÅ·dd Goosebumps

Disglair, pur, nefolaidd Brilliant, pure, heavenly

Caryl – Llanllwni 5.12

Carioci Carolau Cothi, rhywbeth i edrych ymlaen ato on’d ife?
Ac mae plant bach ardal Llanllwni ger Llanbedr Pont Steffan yn edrych ymlaen bob bore i weld pa ddrygioni mae’r hen gorachod ar y silff wedi bod yn ei wneud yn ystod y nos, fel clywon ni gan Nerys Thomas ar raglen Caryl...

Drygioni Naughtiness

Corachod Elves

Wedi gwirioni’n lân Infatuated with

Peth diweddar A recent thing

Beti A'i Phobol – Shan Ashton 11.12

Mae plant ysgol feithrin Llanllwni wir yn edrych ‘mlaen at y Dolig on’d yn nhw?
Shan Ashton oedd gwestai Beti ar Beti a’i Phobol bnawn Sul. Mae Shan wedi cael gyrfa amrywiol ac wedi gorfod magu ei phlant ar ei phen ei hun, ar ôl iddi hi a’i gŵr wahanu pan roedd y plant yn ifanc. Sut wnaeth hi ymdopi â’r sefyllfa anodd yma? Dyna un o gwestiynau Beti iddi hi...

Gwahanu To separate

Ymdopi â To cope with

Cymdogion Neighbours

Heb eu hail Second to none

Asgwrn cefn Backbone

Llifo To saw

Man a man Might as well

Agwedd iach A healthy attitude

Breintiedig Privileged

Dros Ginio – John Eifion a Helen Medi 5.12

Shan Ashton oedd honna yn sgwrsio gyda Beti George
Bob dydd Llun mae Dewi Llwyd ar Dros Ginio yn cael cwmni 2 cyn 2. Tro brawd a chwaer oedd hi yr wythnos hon, John Eifion a Helen Medi. Mae’r ddau yn gerddorol iawn a chafodd y ddau eu magu ar fferm Hendre Cennin rhwng Penygroes a Chricieth yng Ngwynedd. Dyma Helen i ddechrau yn sôn am eu magwraeth...

Magwraeth Upbringing

Aelwyd Hearth

Arddegau Teenage years

Cymdeithasau Societies

Diddanu To entertain

Dylanwadu To influence

Deuawd Duet

Cylchwyl A local festival

Llenyddol Literary

Rheolaidd iawn Very regularly

Aled Hughes – Adrian Cain 7.12

John Eifion a Helen Medi yn sôn am eu magwraeth gerddorol ar fferm Hendre Cennin .
Dydd Mercher cafodd Aled Hughes sgwrs gydag Adrian Cain o Ynys Manaw. Mae Adrian yn athro yn unig ysgol Manaweg yr ynys sef Bunscoill Ghaelgagh (yngenir fel ‘Bynsgwl gilgach’). Mae Adrian yn siarad pedair iaith - Cymraeg, Manaweg, Gwyddeleg a Saesneg.
Dechreuodd Adrian ddysgu Cymraeg tua phum mlynedd yn ôl ac mae e nawr yn dysgu ychydig o Gymraeg i blant yr ysgol ar Ynys Manaw.

Ynys Manaw Isle of Man

Manaweg Manx

Gwyddeleg Irish Language

Tŵf Growth

Ifan Evans Eden 6.12

On’d yw hi’n braf clywed am dŵf y Manaweg? Pob lwc iddyn nhw ar Ynys Manaw gyda’u hiaith arbennig.

Mae gan y grŵp Eden sengl Nadolig allan sef Adre Nôl, a phrynhawn ddydd Mawrth cafodd Ifan Evans siawns i sgwrsio gyda Non Parry o’r grŵp gan ofyn iddi hi yn gynta beth oedd hi’n gwneud y prynhawn hwnnw.

Addurno To decorate

Goleuadau Lights

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

13 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar 91Èȱ¬ Radio Cymru,

Podlediad