Podlediad Pigion y Dysgwyr 16eg o Awst 2022
Podlediad Pigion y Dysgwyr 16eg o Awst 2022
Stiwdio
Nofel hanesyddol enillodd gwobr Daniel Owen yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni ac ar Stiwdio buodd Nia Roberts yn dathlu bywyd a gwaith awdures sy鈥檔 enwog ar ei nofelau hanesyddol sef Marion Eames. Hi sgwenodd Y Stafell Ddirgel a鈥檙 Rhandir Mwyn, ac roedd hi hefyd yn gerddor talentog. Cafodd hi ei geni yn 1921 a buodd farw yn 2007.
Aeth Nia draw i Ddolgellau i gwrdd 芒鈥檙 Dr Buddug Hughes yng Nghapel y Tabernacl I gael 鈥榗hydig o hanes cynnar Marion Eames鈥
Cymry alltud Welsh exiles
Dianc To escape
Yn ddiwylliannol ac yn grefyddol Culturally and religiously
Cyfarfu Gwladys a William Gwladys and William met
Yr aelwyd The home
Prinder tai affwysol Severe housing shortage
Prin oedd ei gafael ar y Gymraeg Her grasp of Welsh was very weak
Chwithig aruthrol Lletchwith iawn
Awyddus Eager
Cyfoedion Peers
Aled Hughes
Ychydig o hanes bywyd cynnar yr awdures Marion Eames yn fan鈥檔a ar Stiwdio.
Dach chi鈥檔 dechrau pob sgwrs yn Gymraeg? Mae Awel Vaughan Evans o Adran Seicoleg Prifysgol Bangor yn ymchwilio i beth sy'n gweithio orau i annog pobl i ddechrau sgyrsiau yn y Gymraeg. Dyma hi鈥檔 siarad efo Aled Hughes fore Mawrth.
Ymchwilio To research
Annog To encourage
Arbrawf Experiment
Cortyn gwddw Lanyard
Yn fwy tebygol More likely
Ysgogi To inspire
Caniat芒d i鈥檙 ymennydd Permission for the brain
Yn benderfynol Determined
Llwybr yr Arfordir Coastal path
Daearyddiaeth Geography
Dei Tomos
Y swigen oren yn gweithio felly 鈥 da ynde? Dei Tomos fuodd yn holi鈥檙 dramodydd a鈥檙 sgriptiwr o Bensarn Ynys M么n, Dewi Wyn Williams, oedd yn cofio y crwydriaid yn galw heibio ei fferm ar yr Ynys. Un ohonyn nhw oedd Washi Bach, crwydryn oedd yn eitha enwog ar Ynys M么n.
Crwydriaid Tramps
Piser Pitcher
Bing Alley in a cow house
Yn fratiog iawn Very ragged
Mwmian To mumble
Gwneud Bywyd yn Haws
Hanes Washi Bach yn fan鈥檔a ar raglen Dei Tomos.
Mae Kayley Sydenham yn dod o Gasnewydd, ond yn astudio ym Mhrifysgol Bangor ar hyn o bryd ac ar Gwneud Bywyd yn Haws buodd Kayley yn edrych yn 么l ar ei phrofiadau fel myfyrwraig y flwyddyn gyntaf gan siarad yn onest am iechyd meddwl ac am hunan anafu.
Profiadau Experiences
Hunan anafu To self harm
Barddoni To write poetry
Lles Welfare
Cerdd A poem
Gor bryder Anxiety
Trafod yn agored To talk openly
Gwaethygu To worsen
Ffili Methu
Mo鈥檡n canolbwyntio Want to concentrate
Ni y Nawdegau
Kayley Sydenham oedd honna ac os dach chi鈥檔 fyfyriwr sy鈥檔 cychwyn yn y coleg mae鈥檔 bosib cael help a phob math o gyngor drwy gyfrwng y Gymraeg ar les a iechyd meddwl wrth fynd ar myf.cymru
Ar Ni y Nawdegau buodd y gomed脧wraig Esyllt Sears yn edrych yn 么l ar y 90au ac yn canolbwyntio ar ffilmiau Cymraeg. Dyma hi鈥檔 s么n am ffilm o 1992 cafodd ei enwebu am Oscar 鈥 鈥楬edd Wyn鈥..
Lles Welfare
Cafodd ei enwebu Which was nominated
Yn gwegian yn feddw In a drunken stupor
Degawd Decade
Ffynnu Thriving
Yn borcyn Naked
Dadansoddi To analyse
TGAU GCSE
Beti a鈥檌 Phobol Ifan Jones Evans
Esyllt Sears oedd honna鈥檔 edrych yn 么l ar y ffilm Hedd Wyn.
Ffermwr a darlledwr o Geredigion oedd gwestai Beti George 鈥 Ifan Jones Evans - un sydd i鈥檞 glywed ar Radio Cymru o ddydd Llun hyd at ddydd Iau. Cafodd Ifan ei fagu ym Mhont-rhyd-y-groes yng Ngheredigion, ac mae鈥檔 s么n yn y clip yma am hanes diwydiant yr ardal, yn arbennig felly y gweithfeydd plwm, arian a sinc
Darlledwr Broadcaster
Diwydiant Industry
Gweithfeydd plwm Lead works
Olion Remains
Twyni tywod Sand dunes
Nant A brook
Mwynau Minerals
Tirwedd Landscape
Gadael 么l To leave a mark
Podlediad
-
Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Podlediadau amrywiol ar gyfer pobol sy鈥檔 dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd.