Podlediad Pigion y Dysgwyr Chwefror 22ain 2022
Mali Ann Rees, Fferm gymuned Llundain, Edward Keith Jones,Casia William a Sophie Tuckwood
Mali Ann Rees Bore Sul
Bore Sul diwetha roedd yr actores Mali Ann Rees yn sgwrsio efo Betsan Powys am ei bywyd a'i gyrfa. Aeth Mali i goleg drama adnabyddus, ond fel clywon ni yn y sgwrs, doedd y cyfnod yn y coleg ddim yn un hawdd iddi hi.
Adnabyddus - Enwog
Cyfnod - Period (of time)
Her - A challenge
Lan - Fyny
Cyfarwyddwyr - Directors
Goroesi - Surviving
Sa i'n gwybod - Dw i ddim yn gwybod
Ystyried - To consider
Ta beth - Beth bynnag
Da clywed, ynde, bod penderfyniad Mail i ddal ati yn benderfyniad cywir, ac ei bod yn medru gwneud gyrfa i'w hunan fel actores.
Troi'r Tir
Mae Dai Jones yn dod o Gapel Bangor yng Ngheredigion yn wreiddiol ond erbyn hyn mae o'n gweithio fel rheolwr fferm Woodlands ger Greenwich yn Llundain. Fferm gymuned yw hon a dyma Dai yn esbonio beth sy'n digwydd ar y fferm ar Troi Tir...
Cymuned - Community
Cyfer - Acre
Gwenith - Wheat
Gwirfoddolwyr - Volunteers
Gwartheg - Cattle
Hwch - Sow
Gwair - Hay
Syndod - A surprise
Argraff - Impression
Pwysau - Pressure
Hanes beth sy'n digwydd ar fferm gymuned yn Llundain ar Troi'r Tir yn fan'na.
Beti a Edward Keith Jones
Edward Keith Jones oedd gwestai Beti George, a fo ydy Prif Ymgynghorydd Newid Hinsawdd Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Yn yr 8 mis diwetha mi gafodd salwch difrifol a buodd o yn yr ysbyty am wythnosau. Yn y clip yma mae o'n s么n am sut mae'r cyfnod hwnnw o salwch wedi newid y ffordd mae o'n edrych ar y byd ac ar y blaned...
Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol - National Trust
Prif ymgynghorydd - Chief consultant
Newid hinsawdd - Climate change
Difrifol - Serious
Llai o amynedd - Less patience
Llewygu - To faint
Ymennydd - Brain
Dynol - Human
Anadlu - To breathe
Llwyth - Loads
Edward Keith Jones oedd hwnna o'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn swnio'n benderfynol iawn yn doedd? Beth arall fasech chi'n ddisgwyl gan ddyn ddringodd pob mynydd yng Nghymru, 183 ohonyn nhw, i ddathlu ei ben-blwydd yn hanner cant.
Munud i Feddwl Casia William
Yr awdures a'r bardd Casia William oedd yn rhoi munud i feddwl i ni fore Mercher a buodd hi'n s么n am y g锚m sydd wedi troi'n ffenomenom ar draws y byd - Wordle
Penderfynol - Determined
Yn eiddgar - Fervently
Cynifer ohonom - So many of us
Wedi cael ein hudo - Have been captivated
Ehangu - To expand
Yn gynyddol anghyfartal - Increasingly unequal
Tegwch - Fairness
Methdalwr - A bankrupt
Byd-eang - Worldwide
Cyfiawnder - Justice
Casia William yn rhoi munud i ni feddwl am pa mor anghyfartal ydy'r byd y dyddiau hyn.
Bore Cothi Syr Geraint Evans
Ar Bore Cothi buodd y bas bariton Anthony Stuart Lloyd yn rhoi ychydig o gefndir y canwr byd enwog Syr Geraint Evans fasai wedi dathlu ei ben-blwydd yn gant oed ar Chwefror un deg chwech eleni. Dechreuodd drwy s么n am y stryd lle cafodd Syr Geraint ei eni - stryd reit enwog a dweud y gwir...
Arweinydd - Conductor
Menywod - Merched
Rhyngwladol - International
Ysgrifennydd Cartref - 91热爆 Secretary
Rhyfedd ynde, bod cymaint o enwogion wedi cael eu geni mewn un stryd fach yng Nghilfynydd ger Pontypridd.
Bore Cothi Sophie Tuckwood
Arhoswn ni efo Bore Cothi am y clip ola. Cafodd Shan Cothi sgwrs efo Sophie Tuckwood sy'n dod o Nottingham yn wreiddiol ond sy'n byw yn Hwlffordd erbyn hyn. Mae Sophie wedi dysgu Cymraeg cystal fel ei bod wedi dechrau gweithio fel tiwtor Cymraeg i oedolion, ac fel cawn ni glywed enillodd hi wobr arbennig iawn llynedd
Hwlffordd - Haverfordwest
Gwobr - Award
Yr ifanca - Y fenga
Cwympo - Syrthio
Trwy gyfrwng - Through the medium of
Podlediad
-
Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Podlediadau amrywiol ar gyfer pobol sy鈥檔 dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd.