Podlediad Pigion y Dysgwyr Ionawr y 28ain 2022
Melanie Owen, Muhammad Ali, Caris Hedd Bowen, @Yr Alltudion, llygod bach a pharc i g诺n.
1. Aled Hughes a Melanie Owen
Melanie Carmen Owen, sy'n dod o Aberystwyth yn wreiddiol ond sy'n byw yng Nghaerdydd erbyn hyn, oedd gwestai Aled Hughes bore Llun diwetha. Melanie fydd yn cyflwyno cyfres newydd o Ffermio ar S4C ond mae hi hefyd wedi mentro i fyd y 'stand-up'. Sut digwyddodd hynny tybed?
Caredig Kind
Awgrymu To suggest
Menywod Merched
Beirniadu To adjudicate
Yn fuddugol Victorious
Profiadau personol Personal experiences
Perthnasol Relevant
Her A challenge
Cynulleidfa Audience
Addasu To adapt
2. Bore Cothi - Muhammad Ali
Melanie Owen oedd honna'n esbonio sut dechreuodd hi weithio ym myd 'stand-up'. Ar Ionawr 17 eleni basai Muhammad Ali wedi dathlu ei benblwydd yn 80 oed.
Un gafodd cwrdd 芒'r dyn ei hun, oedd Hywel Gwynfryn yn 么l yn 1966 draw yn LLundain, pan oedd Hywel yn gweithio fel gohebydd i'r rhaglen Heddiw. Roedd Cassius Clay (fel roedd Muhammad Ali ar y pryd) yn Llundain yn barod i focsio yn erbyn Henry Cooper, a chafodd e anrheg arbennig gan Hywel..
Syllu Staring
Tawelwch Silence
Cerddi Poems
Pencampwr Bocsio'r Byd Boxing World Champion
Na welwyd ei debyg o'r blaen Never seen his like before
Wrth-law Nearby
3. Gwneud Bywyd yn Haws - Caris Hedd Bowen
Hywel Gwynfryn yn s么n wrth Shan Cothi am ei sgwrs gyda Cassius Clay, neu Mohammed Ali. Roedd y bocsiwr hwnnw'n enwog am ei farddoniaeth gyda llinellau fel:
Float like a butterfly, sting like a bee.
His hand can't hit what his eyes can't see.
Tybed ai barddoniaeth TH Parry Williams oedd wedi ei ysbrydoli?
Nos Fawrth ar Gwneud Bywyd yn Haws cafodd Hanna Hopwood gwmni menyw arbennig sydd wedi wynebu sawl her gorfforol a meddyliol. Ar 么l iddi wella o ganser Hogkins Lymphoma roedd Caris Hedd Bowen yn teimlo'n ddiolchgar, ac yn teimlo fel tasai hi'n profi bywyd am y tro cynta. Dyma hi'n disgrifio ei theimladau wrth Hanna...
Ysbrydoli To inspire
Diolchgar Thankful
Cyfweliadau Interviews
Mas y bac Allan i'r cefn
Gwynto Arogli
Yn grac Yn flin
4. Ar y Marc Sadwrn - Dave Rogers
Caris Hedd Bowen yn ysbrydoli Hanna Hopwood wrth rannu ei stori. I glywed y bennod yn llawn ewch draw i 91热爆 Sounds a chwilio am Gwneud Bywyd yn Haws.
Mae Dave Rogers yn byw yng Nghaerloyw ac wedi dysgu Cymraeg, a fe sy'n cynnal cyfri Twitter newydd Clwb P锚l-droed Casnewydd @YrAlltudion. Mae'r cyfrif yn ffordd o rannu newyddion am y t卯m, y canlyniadau ac ati, ac hynny i gyd drwy'r Gymraeg. Mae llawer o gefnogwyr Casnewydd yn ddysgwyr ac mae Dave yn trio dysgu termau p锚l-droed Cymraeg i'r dilynwyr, fel esboniodd e wrth Dylan Jones ar Ar y Marc...
Pennod Episode
Caerloyw Gloucester
Yr Alltudion The Exiles
Canlyniadau Results
Cefnogwyr Fans
Dilynwyr Followers
Tad-cu Taid
5. Ifan Evans a Mari Gwilym
Dave Rogers yn rhoi gwasanaeth Gymraeg i gefnogwyr Casnewydd - ac i'w fab hefyd.
Mae Ifan Evans wedi s么n sawl tro bod ofn llygod bach arno fe ac roedd e wedi dychryn pan welodd e lygoden bach yn y t欧. Ar ei raglen ddydd Mawrth clywon ni hanes gan Mari Gwilym am gael llygod bach yn ei th欧 hi.
Olion Traces
Baw llygoden Mouse droppings
Hogia bach! Dear me!
Cofi Dre Person o Gaernarfon
Hadau Seeds
Llygoden bengron goch Bank vole
Cael gwared ar To get rid of
Anghenfil Monster
6. Bore Cothi a Llew Richards
Mari ac Ifan yn trafod llygod yn fan'na.
Mae Llew Richards sy'n 17 oed, a'i frawd Bryn sydd yn 15, wedi cychwyn menter newydd ar ddechrau blwyddyn newydd - rhentu cae er mwyn i bobol gael dod 芒'u c诺n yno i redeg a chwarae. Dyma Llew yn s么n wrth Shan Cothi am y fenter Newydd...
Dere Tyrd
Wedi dod i glawr Has come about
Ni sy berchen e We own it
Gwartheg Cattle
Tennyn Lead
Llanw lan Welling up
Rhyddid Freedom
Podlediad
-
Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Podlediadau amrywiol ar gyfer pobol sy鈥檔 dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd.