Podlediad Pigion y Dysgwyr 19eg o Dachwedd 2021
Pabi Coch, Merched yn y Rhyfel Byd 1af, Cerdd Dant, Planedau a Give Peace a Chance
1. Dros Ginio - Pabi Coch
Roedd hi’n Sul y Cofio ddydd Sul diwetha a llawer o bobl yn falch o wisgo’r pabi coch yn symbol i gofio am y rhai gollodd eu bywydau mewn rhyfeloedd.
Ond o ble ddaeth y symbol yma? Pam mai pabi coch dyn ni’n ei wisgo? Dyma’r hanesydd Iwan Hughes yn rhoi cefndir y pabi coch mewn sgwrs gyda Catrin Haf Jones ar raglen Dros Ginio…
Deillio To derive
Claddu To bury
Ffrind pennaf Best friend
Ysbrydoliaeth Inspiration
Teyrnged Tribute
Arferiad Custom
Mabwysiadu To adopt
Yn ddiweddarach Later on
Plant amddifad Orphans
Dylanwad Influence
Adnabyddus Aware
2. Rhaglen Aled –Merched yn y Rhyfel Byd 1af
Ychydig o hanes y pabi coch yn fan’na ar Dros Ginio. Ac i aros gyda Sul y Cofio cafodd Aled Hughes sgwrs gyda’r hanesydd Elin Tomos am gyfraniad merched yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf …
Cyfraniad Contribution
Delwedd traddodiadol Traditional image
Ymddwyn To behave
Argraffu To print
Cymwysedig Qualified
Unigryw Unique
Wedi gwirioni’n lân Yn dwlu ar
Carcharorion Rhyfel Prisoners of War
Teimladwy Poignant
3. Rhys Mwyn - Geraint Jones - Planedau
Yr hanesydd Elin Tomos yn fan’na yn sôn am gyfraniad enfawr merched yn ystod y rhyfel byd cyntaf. Nos Lun roedd Rhys Mwyn a’i westeion yn dewis a chwarae traciau oedd yn cyfeirio at y planedau a’r sêr, fel rhan o dymor y 91Èȱ¬, Ein Planed Nawr. Dyma glip o Rhys yn sgwrsio gyda Geraint Jones, sy’n bennaeth Astudiaethau’r Planedau yn yr UCL yn Llundain.
Ymchwil Research
Llong ofod Spaceship
Sadwrn Saturn
Lleuadau Moons
Nentydd Brooks
Nwyon Gases
Hylif Liquid
Brwdfrydig Enthusiastic
Seryddiaeth Astronomy
4. Canu Protest
Geraint Jones oedd hwnna’n sôn am y blaned Sadwrn , y lleuadau a Blur gyda Rhys Mwyn. Mae cyfres rhif 3 o ‘Canu Protest’ yn ôl. Gruff Lynch a Dyl Mei sy’n edrych ar hanes canu protest yn Iwerddon, Yr Alban, a Lloegr. Yn y clip yma, dyn ni’n clywed gan Gruff a gan y casglwr recordiau Meurig Jones am gân brotest enwog y Beatles...
Arbrofol Experimental
Terfyn An end
Enwoca Most famous
Ddaru nhw Wnaethon nhw
5. Cerdd Dant, Canu Gwerin a'r Geroddorfa
Hanes cân brotest y Beatles Give Peace a Chance yn fan’na gyda Griff Lynch a Meurig Jones. Canu bach yn wahanol nawr sef canu gwerin a chanu cerdd dant. Mae cerdd dant yn fath arbennig o ganu yn Gymraeg sy’n gofyn am sgiliau gwahanol iawn i unrhyw fath arall o ganu. Cantores gwerin ydy Linda Griffiths a chafodd hi her i ganu cerdd dant gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y 91Èȱ¬ Dyma Linda’n sgwrsio gyda Lisa Gwilym am ei phrofiad o ganu cerdd dant gyda’r gerddorfa.
Her A challenge
Yn gyhoeddus In public
Cyhur Muscle
Anadlu To breathe
Y bwriad The intention
Bedydd tân Baptism of fire
Amser prin Short space of time
Ces i gathod bach (idiom) I had kittens
Canolbwyntio To concentrate
Egwyddor Principle
Cyfleu To convey
6. Troi'r Tir - Meithrinfa Cwtsh y Clos
Linda Griffiths yn fan’na i weld wedi mwynhau’r profiad o ganu cerdd dant. Ar Troi’r Tir wythnos diwetha clywon ni am hanes meithrinfa ger Llanarthne, Sir Gaerfyrddin sydd ar glos fferm. Meithrinfa Cwtsh Y Clos yw enw'r ac a dyma Gwenllian Stephens ac Ann Davies yn rhoi hanes y feithrinfa…
Clos Farmyard
Cyd-berchennog Co-owner
Ansawdd Standard
Galluogi To enable
Achlysur Occasion
Å´yna Lambing
Llo Calf
Da godro Milking cows
Caseg Mare
Antur Adventure
Fel y cyfryw As such
Podlediad
-
Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Podlediadau amrywiol ar gyfer pobol sy’n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd.