Main content

Pigion y Dysgwyr 1af Hydref 2021

Cantorion, ceffylau, a sut i wella'r system imiwnedd.

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …

COFIO

Plentyndod oedd thema Cofio yr wythnos diwetha a chlywon ni am blentyndod Isora Hughes, plentyndod gwahanol iawn gan ei bod wedi cael ei magu gan ei nani. Roedd mam Isora, Leila Megane, yn gantores enwog ac yn teithio’r byd yn perfformio, ond roedd ganddi ffordd arbennig iawn o adael Isora wybod ei bod yn meddwl amdani hi. T Glynne Davies oedd yn ei holi...

Gwâdd To invite

Yn ddigalon Trist

Anadlu To breathe

Peswch A cough

Wyddoch chi You know

BORE COTHI

Cantores arall sy’n gorfod teithio’r byd yw Rhian Lois a buodd hi’n sgwrsio am synhwyrau gyda Shan Cothi. Dyma hi’n trafod beth yw ei hoff arogl yn y byd, sef arogl Elsi. Ond pwy neu beth yw Elsi?

Synhwyrau Senses

Arogl A smell

Bant I ffwrdd

Llanw fy nghalon i Fills my heart

Croten Merch fach

Mam-gu Nain

GWNEUD BYWYD YN HAWS

Y gantores Rhian Lois oedd honna yn sôn am ei merch fach Elsi.
Mae tymor yr Hydref yn dod a sialensau iechyd gydag e, a’r system imiwnedd oedd yn cael sylw Hanna Hopwood yr wythnos hon ar Gwneud Bywyd yn Haws. Buodd Hanna’n siarad gyda Ellie Armstrong o’r cwmni Chuckling Goat i gael gwybod mwy am sut mae’r diod Kefir yn gallu helpu gyda imiwnedd.

Ymateb Response

Hynod o lwyddiannus Extremely successful

Llaeth gafr Goat’s milk

Llys-fam Stepmother

Tawlu Taflu

Cyflyrau croen Skin conditions

Eitha tost Quite ill

ALED HUGHES

Kefir yn amlwg wedi gwneud bywyd yn haws i deulu Ellie Armstrong. Mae Morwenna Tang, yn dod o Shanghai yn China yn wreiddiol. Enw Cymraeg YuQi ydy Morwenna, a daeth hi i Gymru ddwy flynedd yn ôl gyda’i gŵr, Scott Griffiths, sy’n dod yn wreiddiol o Gaerdydd. Mae hi wedi bod yn dysgu Cymraeg trwy Duolingo ac ers dechrau’r cyfnod clo, ar gwrs gyda Dysgu Cymraeg Gwent. Beth wnaeth iddi hi benderfynu dysgu Cymraeg tybed?

Adnoddau Resources

Bodolaeth Existence

IFAN EVANS

Cymraeg gwych gan Morwenna yn fan’na ar ôl dim ond dwy flynedd yn dysgu’r iaith. Wythnos yma, cafodd Ifan Evans sgwrs gyda Marc Skone, oedd yn arfer perfformio gyda’r ‘boy band ‘ Cymraeg Mega. Mae e yn ôl yn perfformio nawr yn rhan o’r grŵp newydd Halo Cariad, a gofynodd Ifan iddo fe beth oedd e wedi bod yn ei wneud ers iddo fe adael Mega?

Hyn a llall This and that

Dim mor ffôl a hynny Not that bad

Profiadau Experiences

Cyfoethogi To enrich

Gwerth chweil Worthwhile

Cynhyrchydd Producer

Stŵr A row

BETI A’I PHOBL

Marc Skone oedd hwnna’n sôn am ei fand newydd Halo Cariad. Mae’r ffilm Dream Horse wedi bod yn llwyddiannus iawn. Mae’r ffilm yn seiliedig ar stori wir am griw o bobl o gymoedd de Cymru wnaeth fuddsoddi mewn ceffyl o’r enw Dream Alliance aeth ymlaen i rasio yn Grand National Cymru. Dyma i chi flas ar sgwrs gafodd Beti George gyda chyfarwyddwr y ffilm Euros Lyn...

Buddsoddi To invest

Cyfarwyddwr Director

Adolygu To review

Crynhoi To summarise

Cynulleidfa Audience

Adloniant Entertainment

Cynhesrwydd Warmth

Llafar Vocal

Rhyngwladol International

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

16 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar 91Èȱ¬ Radio Cymru,

Podlediad