Pigion y Dysgwyr 20fed Awst 2021
Garmon Rhys, Mared Williams, Nick Yeo a'r cogydd patisserie Richard Holt
S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma 鈥
COFIO
Mae llawer mwy o bobl yn dewis cael gwyliau yng Nghymru eleni a gwyliau oedd them 鈥楥ofio鈥 wythnos diwetha. Yn y clip nesa mae T Glynne Davies yn holi Mrs Hannah Jones fuodd yn cadw gwesty yn y Rhyl am dros bedwar deg o flynyddoedd...
Rhyfel - War
Dogni - Rations
Gwerthfawrogi - To appreciate
Enwogion - Celebraties
Digri - Funny
Tynnu wynebau - Pulling faces
Maldodi - To pamper
POD DYSGWYR
Dipyn o hanes Morecambe and Wise a Tony the Wonder Horse yn aros yn y Rhyl yn fan鈥檔a ar Cofio.
Mae Nick Yeo, dyn ifanc o Gaerdydd wedi dechrau podlediad o鈥檙 enw Sgwrsio ar gyfer y rhai sy鈥檔 dysgu 鈥 ac sy鈥檔 rhugl yn y Gymraeg. Hannah Hopwood, oedd yn cyflwyno Bore Cothi, a hi gafodd 鈥渟gwrs鈥 gyda Nick鈥
Creu - To create
Bodoli - To exist
Anffurfiol - Informal
Rhithiol - Virtual
AmGen - Alternative
Profad arbennig - A special experience
GARMON RHYS
Ie, cofiwch droi mewn i鈥榬 podlediad 鈥楽gwrsio鈥 pan gewch chi gyfle. Mae Garmon Rhys wedi cael rhan yn y sioe Tina 鈥 sioe gerdd am fywyd yr anhygoel Tina Turner. Dyma fe鈥檔 s么n am y profiad o gymryd rhan yn Tina gyda Caryl a Huw ar y Sioe Frecwast
Sioe gerdd - Musical
Llwyfannu - To stage
Newid wedd - Transformation
Ailagor - To reopen
Anhygoel - Incredible
Am wn i - I suppose
Llwgu - To starve
Ailymweld - To revisit
Cyn hired - So long
Celfyddydau - Arts
GWNEUD BYWYD YN HAWS
Mae hi鈥檔 swnio鈥檔 sioe gyffrous iawn on鈥檇 yw hi? Ar Gwneud Bywyd yn Haws nos Fawrth buodd Hanna Hopwood yn holi Sian Files am ei phrofiadau fel aelod o'r 'sandwich generation'. Sut mae jyglo bod yn riant, cael gyrfa a gofalu am aelodau h欧n o鈥檙 teulu? Dyma Sian yn esbonio sut mae dechrau'r cyfrif Instragam Mamgu Mamgu wedi gwneud bywyd yn haws iddi hi鈥
Cyfrif - Account
Sawl rhaglen - Several programmes
Gofalu am - To care for
Sylweddolais i - I realised
Bachu ar y cyfle - Grasped the chance
Cofnodi - To record
Talu sylw - To pay attention
RICHARD HOLT
Sian Files oedd honna鈥檔 s么n am ei chyfrif Instragram Mamgu Mamgu. Weloch chi鈥檙 gyfres Richard Holt a鈥檌 Felyn Felys ar S4C? Os weloch chi h, byddwch yn gwybod bod Richard yn gogydd patisserie gwych iawn. Nawr mae e wedi agor bwyty bwyd melys mewn melin wynt ar Ynys M么n ac fel clywodd Nia Griffiths mae ei fenter newydd yn un sy鈥檔 cael dipyn o sylw ar yr ynys鈥
Cyfres - Series
Melin wynt - Windmill
Dw i鈥檓 be - I don鈥檛 know what
Cynhyrchu - To produce
Erioed wedi gweld - Never seen
Nod - Aim
Blawd - Flour
Gwenith - Wheat
Malu - To grind
MARED WILLIAMS
A phob lwc i Rich Holt gyda鈥檌 fenter newydd on鈥檇 ife? Mae鈥檙 gantores Mared Williams wedi perfformio ar sawl llwyfan yng Nghymru dros y blynyddoedd ac wedi perfformio yn y West End fel un o gast Les Miserable. Clywodd hi鈥檙 wythnos diwetha bod ei halbwm Cymraeg cynta wedi ennill gwobr Albym Cymraeg y Flwyddyn eleni. Ifan Davies a Sian Eleri wnaeth longyfarch Mared a gofyn iddi sut oedd hi鈥檔 teimlo ar 么l clywed y newyddion. Dyma i chi sut wnaeth hi ymateb鈥
Coelio - Credu
Cyfrinach - Secret
Rhannu - To share
Rhestr fer - Shortlist
Yn freintiedig - Privileged
Haeddu - To deserve
Golygu - To mean
Beirniaid - Judges
Aeddfedrwydd - Maturity
Coroni - To crown
Podlediad
-
Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Podlediadau amrywiol ar gyfer pobol sy鈥檔 dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd.