Pigion y Dysgwyr 6ed Awst 2021
Carys Mai Hughes, Rhian Cadwaladr, Laura Truelove a hanes Aled Rees sy'n byw yn Nashville
S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma 鈥
Gwneud Bywyd Yn Haws
Mae llawer ohonon ni wedi gorfod newid ein cynlluniau gwyliau dros cyfnod Covid, ond gwnaeth penderfyniad Carys Mai Hughes i ymestyn ei gwyliau cyn yr ail gyfnod clo newid ei bywyd hi am byth, fel clywon ni ar Gwneud Bywyd Yn Haws鈥
Ymestyn - To extend
Yr ail gyfnod clo - The second lockdown
Sa i鈥檔 mynd gartref - Dw i ddim yn mynd adre
Sa i鈥檔 beio ti - I don鈥檛 blame you
Swistir - Switzerland
Bore Cothi
Mae teithio o gwmpas Ewrop mewn campervan wedi gwneud bywyd yn dipyn haws i Carys on鈥檇 yw e? Shelley Rees oedd yn cyflwyno Bore Cothi ddiwedd wythnos diwetha a chafodd hi gwmni鈥檙 actores Rhian Cadwaladr. Actores ie, ond hefyd mae hi鈥檔 awdur, yn ffotograffydd ac fel cawn ni glywed yn y clip nesa, mae hi鈥檔 dipyn o gogyddes hefyd ac wedi ennill gwobr gan neb llai na Nigella Lawson鈥
Lawrlwytho - To download
Pobyddion - Bakers
Llachar - Bright
Cyfrif - Account
Gradd - Degree
Ieithoedd Canol Oesoedd - Middle Age Languages
Troi鈥檙 Tir
Wel, llongyfarchiadau mawr i Rhian ond hefyd i Nigella am ddefnyddio鈥檙 Gymraeg.
Mae merched o ardal Cynwyl Elfed yn Sir Gaerfyrddin wedi trefnu taith tractors i godi arian tuag at uned Cemotherapi Ysbyty Glangwili ger Caerfyrddin. Roedd dynion yn cael cymryd rhan hefyd ond ar un amod, fel cawn ni glywed! Dyma i chi rai o鈥檙 merched, a鈥檙 dynion, yn s么n am y daith鈥
Amod - Condition
Disgleirio - Shining
Yn flynyddol - Annually
Elusennau - Charities
Yn dost - Yn s芒l
Cymuned - Community
Gwerthfawrogiad - Appreciation
Cydweithio - Cooperating
Mas - Allan
Silwair - Silage
Ifan Evans
Amy Evans, Mared Powell, Malcolm Evans a Michelle Evans oedd y rheina yn s么n am daith tractors Cynwyl Elfed. Tybed oedd Malcolm wedi gwisgo fel merch ar gyfer y daith? Roedd Mared yn y clip yna yn s么n ei bod yn dod o Lampumpsaint yn Sir Gaerfyrddin. Ac o Lanpumpsaint mae Alun Rees yn dod yn wreiddiol hefyd, ond erbyn hyn mae o鈥檔 byw yn Nashville, ac yn gweithio ar raglen deledu yno. Cafodd Ifan Evans sgwrs gydag Alun a dyma i chi flas ar y sgwrs鈥
Trydanwr - Electrician
Cyfryngau - Media
Crwt - Bachgen
Hyfforddi - To coach
Ar yr hewl (heol) - On the road
Offer - Equipment
Goleuni - Lights
Lleoliad - Location
Cofio
Hanes Alun Rees sy鈥檔 byw yn Nashville oedd hwnna ar raglen Ifan Evans. Cyd-ddigwyddiadau oedd thema Cofio鈥檙 wythnos diwetha a dyma
i chi glip o Aled Richard yn s么n wrth Shan Cothi am rywbeth rhyfedd iawn ddigwyddodd iddo fe 鈥
Cyd-ddigwyddiadau - Coincidences
Arddegau - Teenage years
Hyd y gwyddwn i - As far as I knew
Dros Ginio
Wel ie, 鈥榮b诺ci鈥 iawn on鈥檇 ife? Dw i鈥檔 si诺r bod llawer mwy ohonon ni wedi treulio gwyliau鈥檙 haf yma ar lan y m么r yng Nghymru yn hytrach na mynd dramor oherwydd Covid. A does unman gwell, nac oes, ond i ni gael y tywydd! Ar Dros Ginio ddydd Mawrth diwetha cafodd Jennifer Jones gwmni鈥檙 syrffiwr, nofiwr gwyllt a鈥檙 amgylcheddwr Laura Truelove i s么n am pa mor arbennig ydy鈥檙 m么r iddi hi鈥檔 bersonol鈥
Amgylcheddwr - Environmentalist
Arfordir - Coast
Yn rheolaidd - Regularly
Deniadol - Attractive
Atynfa - Attraction
Dianc - To escape
Cyngor - Advice
Iselder - Depression
Methu ymdopi - Unable to cope
Rhagnodi - To prescribe
脧onau - Ions
Podlediad
-
Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Podlediadau amrywiol ar gyfer pobol sy鈥檔 dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd.