Main content

Pigion y Dysgwyr 16eg Gorffennaf 2021

Betsan Powys, Eluned Phillips, Jazz Langdon, a'r Ras ar Draws America

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma 鈥

DROS GINIO
Dros yr wythnosau diwetha ar Dros Ginio mae Gwenfair Griffiths wedi bod yn holi rhai o newyddiadurwyr Cymru am eu Stori Fawr nhw... Betsan Powys oedd yn cael ei holi y tro diwetha a buodd hi鈥檔 s么n am sut oedd hi鈥檔 teimlo fel gohebydd ifanc yn Bosnia yn ystod y rhyfel oedd yno yn y 90au.

Gohebydd - Correspondent

Rhyfel - War

Sb茂o - Edrych

Darbwyllo - To convince

Cyflawni - To achieve

Y fyddin - The army

Anghyfarwydd - Unfamiliar

Cydbwyso - Balancing

Dychrynllyd - Terrifying

Ergyd - A shot

STIWDIO
Lleisiau Betsan Powys a rhai o鈥檙 milwyr fuodd yn ymladd yn Bosnia yn fan鈥檔a. Ar Stiwdio nos Lun, cafodd Nia Roberts gwmni鈥檙 Athro Menna Elfyn i drafod cyfrol mae Menna newydd ei golygu o鈥檙 enw 鈥淐yfrinachau 鈥 Eluned Phillips鈥. Roedd Eluned yn fenyw ddiddorol iawn , roedd hi wedi teithio鈥檙 byd a dod yn ffrindiau gydag enwogion fel Picasso ac Edith Piaf. Roedd hi鈥檔 fardd ac yn awdur. Enillodd hi goron yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith y tro cynta yn 1967 ac wedyn yn 1983. Roedd hi wedi sgwennu nofel hunangofiannol ond wnaeth hi mo鈥檌 chyhoeddi. Dyma Menna鈥檔 egluro pam.....

Athro - Professor

Cyfrol - A volume

Enwogion - Famous people

Hunangofiannol - Autobiographical

Dagrau pethau - The sadness of it

Amheuon - Suspicions

S茂on - Rumours

Mewn gwirionedd - In reality

SHAN COTHI
Ychydig bach o hanes y fenyw ryfeddol Eluned Phillips yn fan鈥檔a gan Menna Elfyn. Pa ffilmiau sy鈥檔 gwneud i chi eisiau mynd ar wyliau? Buodd Dorien Morgan yn siarad gyda Sh芒n Cothi am ffilmiau hafaidd, ac am wylio ffilmiau o鈥檙 car mewn 鈥榙rive through鈥...

Y fenyw ryfeddol - The amazing woman

Dala lan - To catch up

Sa i鈥檔 dreifio - Dw i ddim yn gyrru

Simsan - Unsteady

Crybwyll - To mention

Cwympo - Syrthio

Efrog Newydd - New York

Cludo - To transport

Cymeriadau - Characters

Dylanwadu - To influence

TROI鈥橰 TIR
A s么n am wyliau, sut fasech chi鈥檔 licio gwyliau mewn pod glampio? Mae Joyce Jenkins yn byw ar fferm ym Mlaenplwyf yng Ngheredigion ac mae hi wedi dechrau busnes gosod podiau glampio ar y fferm gyda鈥檌 merch yn nghyfraith Gwenan Jenkins. Dyma hanes y fferm a鈥檙 menter newydd.

Gosod - To rent out

Menter - Venture

Darn o dir - Piece of land

Clawdd - Wall

Golygfa - Scenery

Mo鈥檡n - Eisiau

Unigryw - Unique

Canu gwlad - Country & Western

ALED HUGHES
...a phob lwc i鈥檙 ddwy yn eu menter newydd ond鈥檌fe? Mae Michael Davies Hughes yn dod o Gricieth yn wreiddiol ond mae e 鈥榥 byw yn Eureka, gogledd Califfornia erbyn hyn. Mae e newydd gwblhau y ras seiclo anodda yn y byd sef y Ras Ar Draws America. Mae hi鈥檔 ras dros 3 mil o filltiroedd, ar hyd 12 talaith wahanol, dros 175 mil o droedfeddi o ddringo, a hynny i gyd yn digwydd mewn 12 diwrnod鈥 Waw
Cwblhau - To complete

Talaith - State

Troedfeddi - Feet (measurement)

Seibiant - A respite

Corfforol - Physical

Gwthio - To push

Ddaru - Wnaeth

Twll dan grisiau - Cwtsh dan st芒r

Anialwch - Desert

GERAINT LLOYD
Roedd hynny鈥檔 dipyn o gamp gan Micheal on鈥檇 oedd? I Arberth yn Sir Benfro aeth Geraint Lloyd wythnos diwetha i gael sgwrs am yr ardal gyda Dysgwr y Flwyddyn y llynedd, Jazz Langdon. Dyma i flas ar y sgwrs鈥

Dipyn o gamp - Quite an achievement

Ar bwys - Wrth ymyl

Amgueddfa - Museum

Yn gyffedinol - Generally

Yn beodol - Specifically

Terfysgoedd Beca - The Rebecca Riots

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

16 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar 91热爆 Radio Cymru,

Podlediad