Pigion y Dysgwyr 4ydd Mai 2021
Maxine Hughes, Mari Huws, Lowri Morgan, a ci bach Bangor yn torri record byd
S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …
BETI GEORGE
Gwestai Beti George wythnos diwetha oedd y newyddiadurwraig o Gonwy, Maxine Hughes sydd erbyn hyn yn gweithio yn Washington DC. Buodd hi’n byw yn Istanbul pan oedd hi’n gweithio i gwmni Newyddion TRT World ac yn 2016 roedd sawl sefyllfa beryglus wedi codi yn y wlad. Be oedd effaith hynny arni hi tybed? …
Profiad - Experience
Hardd - Pretty
Anhygoel - Incredible
Darlledwr - Broadcaster
Ymosod - To attack
Uffernol - Hellish
Awyrennau - Aeroplanes
GWNEUD BYWYD YN HAWS
Roedd hi’n amser cyffrous ond peryglus iawn i Maxine a’i theulu yn Istanbul yn 2016 on’d oedd hi? Mae llawer iawn ohonon ni wedi gorfod hunan ynysu am rywfaint yn ystod y flwyddyn diwetha on’do? Ond doedd gan Mari Huws ddim dewis – roedd hi’n byw ar ynys fach Ynys Enlli. Hi ydy warden yr ynys ac mae hi wedi bod yn brysur yn cael rhai o dai Enlli yn barod ar gyfer ymwelwyr yn ystod yr haf. Nos Fawrth ar Gwneud Bywyd yn Haws caethon ni ychydig o flas bywyd ar yr ynys gan Mari...
Ynys Enlli - Bardsey Island
Anferth - Huge
Cynnal a chadw - To maintain
Her - A challenge
Llnau - Glanhau
Cyflwr - Condition
Goleudy - Lighthouse
Mae’n anodd dychmygu - It’s difficult to imagine
Amlwg - Obvious
GWNEUD BYWYD YN HAWS
Ychydig o flas ar fywyd Ynys Enlli yn fan’na ar Gwneud Bywyd yn Haws. Roedd hi’n benwythnos Gwneud Gwahaniaeth ar 91Èȱ¬ Radio Cymru a buodd nifer o bobl yn siarad am eu profiadau o wneud gwahaniaeth yn y gymuned neu am beth sy wedi gwneud gwahaniaeth i’w bywydau nhw. Lowri Morgan oedd gwestai Aled Hughes a soniodd hi am effaith rhedeg ar ei bywyd hi
Gwneud Gwahaniaeth - Making a difference
Mae’n rhaid i mi gyfaddef - I must admit
TGAU - GCSE
Ysgafnhau - To lighten
Amynedd - Patience
Hynod ysbrydoledig - Extremely inspiring
Yr un - The same
Corfforol - Physical
Cymhelliad - Motivation
Dewrder - Bravery
Hyfforddi - Coaching
IFAN EVANS
Rhywun arall sy wedi gwneud gwahaniaeth yn ei chymuned yw Ela Jones – a hi oedd yn derbyn gwobr DIOLCH O GALON rhaglen Ifan, a dyma un o’i ffrindiau hi’n sôn mwy amdani wrth Ifan Jones Evans
Gwobr - Award
Gwirfoddol - Voluntary
Cyngor doeth - Wise advice
Dirwgnach - Uncomplaining
Yn ddiwyd - Diligently
Ychwanegol - Extra
Cymuned wledig - Rural community
Amhrisiadwy - Invaluable
Cydwybodol - Concientious
DROS GINIO
Ela Jones yn llawn haeddu’r wobr on’d oedd hi? Mae cŵn defaid yn werthfawr iawn i ffermwyr, ond pwy fasai’n meddwl basai ci bach o Fangor yn cael ei werthu am bris dorodd record y byd! Jenifer Jones glywodd hanes LASSIE ar Dros Ginio
Cŵn defaid - Sheepdogs
Arwethiant - Sale
Blaenorol - Previous
Rhinweddau - Virtues
Cynghrhair - League
Hen-daid - Great grandfather
Cynharach - Earlier
Prin iawn - Very rare
Gast - Bitch
Clip Steffan Sioe Frecwast
Ac o seren y cŵn defaid i hanes rai o sêr Hollywood mewn ffilm a chysylltiadau cryf iawn â Chymru. Mi wnaeth Steffan Rhodri ymuno â Shelley a Rhydian i sôn am ei ffilm Hollywood newydd – Dark Horse...
Ffilm ddogfen Documentary
Perchen To own
Llwyddiannus iawn Very succesful
Cymeriadau Characters
Pentrefwyr Villagers
Sain Sound
Awgrymu To suggest
Talu teyrnged Paying a tribute
Podlediad
-
Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Podlediadau amrywiol ar gyfer pobol sy’n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd.