Pigion y Dysgwyr 16eg Ebrill 2021
Connagh a Wayne Howard; Huw Llywelyn a Syr Gareth Edwards; a Doreen Lewis gyda Dewi Llwyd
S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …
SHAN COTHI
Y cerddor Brychan Llyr oedd gwestai Shan Cothi yr wythnos yma ac esboniodd e wrth Shan pam ei fod mor hoff o bobl, o fwyd ac o gerddoriaeth Yr Eidal…
Cerddor - Musician
Hala - Treulio
Cyfarwydd - Familiar
Annwyl - Endearing
Parchus - Respectable
Rhufain - Rome
Cyfle - Opportunity
Twr - A crowd
Eidalwyr - Italians
Wedi syfrdanu - Stunned
Rhyfeddu - To marvel
SIOE FRECWAST
Brychan Llyr oedd hwnna yn sôn am gig arbennig iawn yn yr Eidal. Mae’r rhaglen Cymru, Dad a Fi ar S4C yn un boblogaidd iawn. Mae’r rhaglen yn dilyn Connagh Howard oedd yn un o sêr Love Island a'i dad, Wayne, ar daith drwy ynysoedd Cymru. Dyma nhw’n sgwrsio gyda Caryl a Huw Stephens am eu hymweliad ag Ynys Enlli.
Ynys Enlli - Bardsey Island
Profiad - Experience
Bythgofiadwy - Unforgettable
Cysylltiad hudolus - A magical connection
Cyfres - Series
TROI’R TIR
Dysgodd Wayne Howard Gymraeg fel oedolyn a gwnaeth yn siŵr bod ei fab Connagh yn cael addysg Gymraeg. Mae’r ddau yn amlwg yn mwynhau eu teithiau o gwmpas ynysoedd Cymru.
Mae Lydia Edwards yn dod o Fetws Gwerfyl Goch yn Sir Ddinbych a chafodd ei magu ar fferm ddefaid. Yn ystod y cyfnod clo aeth hi i weithio ar fferm ar Ynysoedd y Malvinas, neu’r Falklands. Dyma hi’n esbonio ar Troi’r Tir pam penderfynodd hi fynd draw yno
Y cyfnod clo - Lockdown
Hogan - Merch
Twrnai - Solicitor
Lapio gwlân - Skirting and rolling the fleece
Lluchio - To throw
Anhygoel - Incredible
Hunanynysu - To self-isolate
Cneifio - Shearing
Sa ti’n dreifio - Os nad wyt ti’n gyrru
HUW LLYWELYN A GARETH EDWARDS
Bywyd gwahanol iawn yn hemisffîr y de yn fan’na i Lydia. Roedd y darlledwr chwaraeon Huw Llywelyn Davies yn ffrindiau gyda chyn fewnwr Cymru - Syr Gareth Edwards pan oedden nhw’n blant ac roedden nhw’n ymarfer rygbi gyda’i gilydd. Ond fel gwnawn ni glywed yn y clip nesa roedd byd rygbi’r plant yn dipyn gwahanol bryd hynny i’r byd fel mae e nawr…
Darlledwr - Broadcaster
Cyn-fewnwr - Former scrum half
Cyfnod - Period
Dyfarnwr - Referee
Crits - Bechgyn
Rhyngwladol - International
Ochrgamu - To sidestep
Heol(hewl) - Lôn
Dros yr ystlys - Into touch
Cryfder - Strength
Hyfforddwyr - Coaches
Unigolion - Individuals
DILWYN MORGAN
Huw Llywelyn Davies a Syr Gareth Edwards yn cofio eu plentyndod yn fan’na. Mae yna nifer o ofergoelion yn y byd morwrol a buodd Dilwyn Morgan yn rhannu rhai ohonyn nhw ar y rhaglen Ar Lan y Môr …
Ofergoelion - Superstitions
Byd morwrol - The seafaring world
Chwibanu - Whistling
Her - A challenge
Ail-fedyddio - To rebaptise
Hen goel - An old omen
Anlwc - Bad luck
Oedd yn berchen - Owned
Celwydd - A lie
Un ai - Either
Y duwiau - The gods
PENBLWYDD DEWI LLWYD
Dilwyn Morgan oedd hwnna’n sôn am rai o ofergoelion y byd morwrol. Y gantores Doreen Lewis oedd gwestai pen-blwydd Dewi Llwyd yr wythnos diwetha a hithau’n dathlu ei phenblwydd yn 70 oed. Gofynnodd Dewi iddi hi pa un oedd y pen-blwydd mwya cofiadwy iddi hi.
Cofiadwy - Memorable
Gyrfa - Career
Rhyfedda - Most amazing
Dros y fro i gyd - All over the area
Anrhegion - Presents
Mis mêl - Honeymoon
Cystal ag y bu - As good as it used to be
Adloniant - Entertainment
Ymateb - Response
Llonni - To become cheerful
Podlediad
-
Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Podlediadau amrywiol ar gyfer pobol sy’n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd.