Main content

Pigion y Dysgwyr 18fed Chwefror 2021

Enwau pysgod Cymru, Cledwyn Ashford, Emyr Lewis, Carys Davage, a ffilm Aled Llyr Gruffudd

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …

Dros Ginio - Anthony Evans
Morgi a Draenog y Môr- dyn nhw dim yn swnio’n ddeniadol iawn nac ydyn, er eu bod yn bysgod blasus iawn.
Mae pysgotwyr yng Nghernyw eisiau newid enwau eu pysgod er mwyn iddyn nhw swnio’n fwy lleol a deniadol. Ddylai ni wneud yr un peth yng Nghymru? Dyma farn y cogydd Anthony Evans yn sgwrsio gyda Vaughan Roderick…

Morgi - Dogfish

Draenog y Môr - Sea Bass

Pwysleisio - To emphasise

Cregyn gleision - Mussels

Cynnyrch - Produce

Moethus - Luxurious

Croen - Skin

Papur tywod - Sandpaper

Dros Frecwast - Cledwyn Ashford
Y cogydd Anthony Evans oedd hwnna yn meddwl dylid newid enwau rhai o‘r pysgod sy’n cael eu dal yng Nghymru.
Mae ychydig bach o Hollywood wedi cyrraedd Wrecsam gyda’r newyddion bod yr actorion Ryan Reynolds a Rob McElhenney wedi prynu’r clwb pêl-droed. Mae ffans y clwb wrth eu boddau a dyma un ohonyn nhw, Cledwyn Ashford, yn sgwrsio gyda chriw Dros Frecwast am y newyddion cyffrous

Dylanwad - Influence

Y gymuned - The community

Anhygoel - Incredible

Perchnogion - Owners

Dyled - Debt

Sicrhau pryniant - To clinch the purchase

Buddsoddi - To invest

Ieuenctid - Youth

Ysbryd - Spirit

Troi’r Tir - Emyr Lewis
..a nawr symudwn ni o bêl-droed i rygbi ac roedd Cymru’n chwarae yn erbyn yr Alban ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad y penwythnos diwetha.
Ar Troi’r Tir yr wythnos diwetha, clywodd Terwyn Davies hanes ffermwr o ganolbarth Cymru sy bellach yn ffermio yn yr Alban. Pwy oedd e’n ei gefnogi yn y gêm fawr tybed?

Pencampwriaeth y Chwe Gwlad - Six nations

Y Canolbarth - Mid Wales

Sir Drefaldwyn - Montgomeryshire

Rheolwr - Manager

Gradd amaeth - A degree in agriculture

Sioe Frecwast - Emyr Lewis
Gan ein bod ni newydd fod ym myd amaeth beth am i ni sôn am y Tarw – na nid yr anifail fferm ond Emyr Lewis oedd yn arfer chwarae fel rhif wyth i Lanelli ac i Gymru. Cafodd e’r enw tarw achos ei rediadau cryf fel wythwr yn torri drwy’r gwrthwynebwyr ond roedd dawn cicio ganddo hefyd fel buodd e’n sôn wrth Daf a Caryl…

Rhediadau - Runs

Gwrthwynebwyr - The opposition

Cryn dipyn o bwysau - Quite a lot of pressure

Digwydd bod - As it happens

Asgell - Wing

Buddugoliaethau - Victories

O’ch plaid chi - In your favour

Cenhedlaeth - Generation

Cerddorol - Musical

Unigryw - Unique

Gwneud Bywyd yn Haws - Cerys Davage
Ac mae Emyr Lewis yn sylwebu ar holl gemau Cymru yn y Chwe Gwlad ar Radio Cymru.
Un o effeithiau’r cyfnod clo yw nad yw hi wedi bod yn bosib mynd i wrando ar gerddoriaeth fyw. Mae’n debyg bod hyn wedi effeithio ar bobl ifanc yn fwy na neb. Ar Gwneud Bywyd Yn Haws, cafodd Hanna Hopwood sgwrs am hyn gyda Cerys Davage sydd ar ei hail flwyddyn ym Mhrifysgol Aberystwyth …

Sylwebu - To commentate

Cymdeithasol - Social

Gweld eisiau - To miss

Bloc Llety - Residential block

Mae e wir yn drueni - It’s a real shame

Yn gyfarwydd iawn - Very familiar

Dathlu - To celebrate

Cyfryngau cymdeithasol - Social media

Bore Cothi - Aled Llyr Gruffudd
Cerys Davage o Brifysgol Aberystwyth oedd honna’n sôn am sut mae'r cyfnod clo wedi effeithio ar fywyd cymdeithasol myfyrwyr. Enillodd Aled Llŷr Gruffudd wobr yn ddiweddar am un o’i ffilmiau, a gofynnodd Shan Cothi iddo fe sut cafodd e’r syniad am y ffilm......

Gwobr - Award

Pwnc - Subject

Galar - Bereavement

Nain - Mam-gu

Gwacter - Emptiness

Di-nod - Pointless

Ysbrydoli - To inspire

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

49 eiliad

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar 91Èȱ¬ Radio Cymru,

Podlediad