Main content

Pigion y Dysgwyr 15fed Hydref 2020

Mark Drakeford, Dafydd Iwan, Nigel Owens, a Carys Eleri a'i mham

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma 鈥︹

Ffion Emyr a Tim
鈥a i ddymuno blwyddyn newydd dda i chi gyd, ac ar ddechrau鈥檙 flwyddyn newydd, cafodd Ffion Emyr sgwrs gyda Tim, sy鈥檔 dod o Fethesda yng Ngwynedd yn wreiddiol ond sy erbyn hyn yn byw yn Fflorida. Cwestiwn cynta Ffion i Tim oedd ers pryd mae e鈥檔 byw yn Fflorida鈥

Di mopio efo鈥檙 lle - Wedi dwlu ar y lle

Fatha - Fel (yr un fath 芒)

Diodydd - Drinks

Beti George a Mark Drayford
Coct锚ls arbennig Betesda yn fan鈥檔a 鈥r holl ffordd o Fflorida.
Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford oedd gwestai Beti George yr wythnos diwetha ac yn y clip yma mae e鈥檔 s么n am yr adeg gwnaeth e ddysgu siarad Cymraeg yn rhugl鈥

Prif Weinidog - First Minister

Tad-cu - Grandfather

Cwrdd gyda - Cyfarfod efo

O ddifri - Seriously

Llywodraeth - Government

Degawd - Decade

Datganoli - Devolution

Cyfleon - Opportunities

Canolbwyntio - To concentrate

Dwyieithog - Bilingual

Elis James a Dafydd Iwan
Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, oedd hwnna yn sgwrsio gyda Beti George. Ond a ddylen ni gredu beth mae gwleidyddion yn ei ddweud wrthon ni? Dw i ddim yn si诺r ar 么l gwrando ar Dafydd Iwan, oedd yn siarad gyda Ellis James y rhaglen 鈥 Dwy Iaith Un Ymennydd

Gwleidyddion - Politicians

Ymennydd - Brain

Beirniadu - To criticise

Dweud celwydd - Lying

Anwiredd - Untruth

Y gwirionedd - The truth

Celu - To conceal

Rhoi鈥檙 argraff - To give the impression

Esgus - To pretend

Cydymdeimlo - To sympathize

Osgoi cyfadde - To avoid admitting

Nigel Owens
Nid dweud celwydd ond bod yn rhy onest oedd bachgen bach wrth siarad gyda鈥檙 dyfarnwr rygbi Nigel Owens fel y cawn ni glywed yn y clip nesa pan oedd Nigel ateb cwestiwn Angharad Mair iddo fe sef o鈥檙 holl g锚mau mae o wedi eu dyfarnu pa rai sydd yn aros yn y cof鈥

Dyfarnwr - Referee

Rownd derfynol - Final

Chwe Gwlad - Six Nations

Yn cynnwys - Including

Gwynebau - Faces

Crwtyn bach - Bachgen bach

Becso - Poeni

Achlysur - Occasion

Carys a Meryl
Angharad Mair oedd honna yn cyflwyno rhaglen Aled Hughes ac yn sgwrsio gyda Nigel Owens sy newydd ymddeol o ddyfarnu g锚mau rygbi.
Carys Eleri a Meryl Evans, mam a merch o鈥檙 Tymbl yn Sir Gaerfyrddin, oedd gwesteion Dau Cyn Dau Catrin Heledd ar Dros Ginio yr wythnos diwetha a dyma nhw鈥檔 s么n am sut maen nhw wedi ymdopi gyda鈥檙 cyfnod clo

Y cyfnod clo - The lockdown

Gwefannau cymdeithasol Social media

Unigrwydd - Loneliness

Ymgymryd 芒 her - Undertaking a challenge

Presenoldeb - Presence

Agos谩u - To become closer

Yr aelwyd - The home

Ysgrifenyddes - Secretary (female)

Cetra Bore Cothi
Carys Eleri a Meryl Evans, mam a merch o鈥檙 Tymbl sy鈥檔 amlwg wedi mwynhau cwmni ei gilydd yn ystod y cyfnod clo.
Mae Cetra Coverdale Pearson yn dod o swydd Stafford yn wreiddiol ond yn byw yn ardal Derby erbyn hyn, ond fel cawn ni glywed o鈥檙 sgwrs hon gyda Shan Cothi, mae hi wedi dysgu Cymraeg yn arbennig iawn a hynny mewn ychydig dros flwyddyn. Dyma hi鈥檔 esbonio ar Bore Cothi pam penderfynodd hi ddysgu鈥檙 iaith a sut aeth ati i wneud hynny鈥

Anhygoel - Incredible

Cwympo mewn cariad - To fall in love

Y cam cynta - The first step

Sylw - Attention

Ro鈥檔 i鈥檔 synnu - I was surprised

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

15 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar 91热爆 Radio Cymru,

Podlediad