Main content

Pigion y Dysgwyr 18fed Rhagfyr 2020

Carys Evans o flog Calon Lân, Rhys Jones, Anna Reich, a ffilmiau Nadolig Trystan ap Owen

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …

GWNEUD BYWYD YN HAWS
Ar y rhaglen Gwneud Bywyd yn Haws mae Hanna Hopwood Griffiths a'i gwestai'n trafod beth sy'n gwneud bywyd yn haws iddyn nhw. Dyma Carys Evans, sy’n dod o Ynys Môn yn wreiddiol ond sydd nawr yn byw yn Sir Fynwy, ac mae hi’n ysgrifennu blog o’r enw Colon Lân , er mwyn rhannu beth wnaeth bywyd ychydig bach yn haws iddi ar ôl iddi gael diagnosis o gansr y coluddyn.

Cansr y coluddyn - Bowel cancer

Ymwybodol - Aware

Parhau - To continue

Profion gwaed - Blood tests

Rhyw fath o dyfiannau - Some kind of growths

Iau - Liver

Ymledu - To spread

Cadarnhau - To confirm

Triniaeth - Treatment

Rhannu fy mhrofiadau - To share my experiences

STIWDIO
Carys Evans oedd honna yn dweud beth wnaeth bywyd yn haws iddi hi ar ôl iddi gael newyddion drwg iawn am ei hiechyd.
Wel, mae hi bron yn Nadolig ac felly mae’n siŵr bydd y ffilm ‘The Sound of Music ‘ i’w gweld ar ryw sianel dros y gwyliau. 'Teulu' oedd thema rhaglen wythnos diwetha o Cofio ac yn y clip yma mae Nia Roberts yn sgwrsio gyda Rhys Jones am hanes y teulu Von Trapp sef stori’r sioe gerdd a’r ffilm enwog…

Wedi ei seilio ar - Based on

Lleianes - Nun

Wedi hen godi ei ben - Had long since raised its head

Gorthrwm yr Iddewon - The oppression of the Jews

Canolbwyntio ar yr agwedd - Concentrating on the aspect

Rhyfeddol - Amazing

Ddaru nhw gynhyrchu - They produced

Gogoniant - The glory

Bywyd hollol annibynnol - Totally independent life

BORE COTHI
Rhys Jones oedd hwnna yn sôn am ‘The Sound of Music’ ar Cofio.
Wel, mae na beryg i ni or-fwyta, gor-yfed ac eistedd gormod ar y sofa yn gwylio ffilmiau fel ‘The Sound of Music’ dros y Nadolig on’d oes na? Dyma i chi gynghorion Anna Reich ar sut i gadw’n heini ac yn iach dros y gwyliau…

Ymchwiliwch nhw - Research them

Tro ar ôl tro - Time after time

Cymhleth - Complicated

Newid meddylfryd - Change the mindset

Cryno - Compact

Hallt - Salty

Sychedig - Thirsty

Chwerw - Bitter

HUW STEPHENS
Dyna ni felly – jog bach cyn stwffio’r twrci!
Trystan ap Owen oedd yn sôn am ffilmiau’r wythnos ar Sioe Frecwast Huw Stephens fore Gwener, felly pa ffilm Nadolig wnaeth Trystan ei hargymell i ni tybed?

Argymell - To recommend

Nadoligaidd - Christmassy

Addas iawn - Very suitable

Hud a lledrith - Magic

Wedi cael ei leoli - Has been located

Ymenydd - Brain

Cyfoethog - Rich

Troslais - Voiceover

Cymeriad - Character

Achub - To rescue

DROS GINIO
Argymhelliad ffilm Nadolig deuluol yn fan’na gan Trystan ap Owen . I lawer ohonon ni, fasai hi ddim yn Ddolig heb y twrci, ond sut flwyddyn mae hi wedi bod i’r rhai sy’n gwerthu twrcwns? Carys Thomas a Sion Jones fuodd yn siarad gyda Jennifer Jones ar Dros Ginio…

Llawn mor brysur - Just as busy

Trefnus - Organised

Archebu - To order

Ymdopi - To cope

Y fwy cyndyn - More reluctant

Yn draddodiadol - Traditionally

Coron - Crown

Arferion - Habits

Rhewgell - Freezer

Gwerthiant - Sales

STIWDIO
Sgwrs am dwrcwns yn fan’na ar beth arall ond Dros Ginio!
Wrth i Coronation Street ddathlu 60 mlynedd ar y sgrîn, ar Stiwdio nos Lun buodd Nia Roberts a’i gwestai Dr. Manon Wyn Williams yn ceisio dadansoddi pam fod yr opera sebon wedi parhau’n boblogaidd am gymaint o amser.

Dadansoddi - To analyse

Gweithgaredd deuluol - A family activity

Yn cael ei darlledu - being broadcast

Yr holl atgofion - All the memories

Cymuned glòs - A close community

Dosbarth gweithiol - Working class

Cysurus - Comforting

Wedi cael ei beirniadu - Has been criticised

Delwedd - Image

Adlewyrchu - To reflect

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

16 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar 91Èȱ¬ Radio Cymru,

Podlediad