Main content

Pigion y Dysgwyr 4ydd Rhagfyr 2020

Rhys ab Owen, Gwenno Roberts, Sian Rees, tiwtor Cymraeg Ant a Dec, a coctels Sandra Llan

"S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma 鈥 "

ALED HUGHES - RHYS AB OWEN
Mae na lawer o bobl yn credu mai rhywbeth newydd yw clywed Cymraeg yn cael ei siarad mewn rhannau o Gaerdydd. Ond mae llyfr Owen John Thomas, The Welsh Language in Cardiff : A history of survival yn dangos bod yr iaith wedi bod yn fyw iawn mewn sawl ardal o鈥檙 ddinas yn y gorffennol. Daeth mab yr awdur, Rhys ab Owen, i sgwrsio am y llyfr gydag Aled Hughes a dyma i chi flas ar y sgwrs鈥

Y bedwaredd ganrif ar bymtheg - 19th Century

Enghreifftiau - Examples

Y mwyafrif llethol - The vast majority

Cyfrifiad - Census

Yn fanteisiol iawn - Very advantageous

Delwedd - Image

Canrif yn ddiweddarach - A century later

Tu fas - Outside

Y dystiolaeth - The evidence

Yr Eglwys Newydd - Whitchurch

FFION EMYR - SANDRA LLAN
Ychydig o hanes y Gymraeg yng Nghaerdydd yn fan鈥檔a ar raglen Aled Hughes. Mae gan Ffion Emyr raglen newydd nos Wener ar Radio Cymru, a phob wythnos mae hi鈥檔 mynd i ofyn 鈥減wy sy鈥檔 gwneud y coctel gorau yng Nghymru?鈥 . Sandra Llan oedd ei gwestai cyntaf鈥.

Mi fydd gynnon ni - Bydd gyda ni

Hyd yn oed - Even

Brifo - Anafu

Nei di鈥檓 cofio - Wnei di ddim cofio

TRYSTAN AC EMMA - JOHN PRITCHARD
Hanes coctels peryglus Llanberis oedd hwnna ar raglen Ffion Emyr. Wel gwnaeth t卯m p锚l-droed Cymru yn dda yn y g锚mau diweddar yn Nghwpan y Cenhedloedd ac ennill dyrchafiad i Gr诺p A yn y gystadleuaeth. Ond oeddech chi鈥檔 gwybod bod yna d卯m P锚l-droed Cerdded Cymru hefyd, a bod y t卯m wedi ennill Cwpan y Byd? Beth yn union ydy P锚l-droed Cerdded? Dyna un o gwestiynau Trystan Ellis Morris ac Emma Walford i John Pritchard o Ynys M么n sy鈥檔 chwarae P锚l-droed Cerdded dros Gymru...

Cwpan y Cenhedloedd - Nations Cup

Dyrchafiad - Promotion

Pencampwr o fri - A renowned champion

Yr un rheolau - The same rules

Arferol - Usual

Pwyslais - Emphasis

Yn dda i ddim - No good

Dw i鈥檔 dychmygu - I imagine

GWNEUD BYWYD YN HAWS - GWENNO ROBERTS
John Pritchard, un o s锚r t卯m P锚l-droed Cerdded Cymru oedd hwnna鈥檔 siarad gyda Trystan ac Emma ar eu rhaglen newydd sbon bob bore Gwener am 9. Mae Gwenno Roberts wedi dechrau cwmni codi pwysau o鈥檙 enw Vulcanna Fit ac yn ystod rhaglen gynta y gyfres newydd 鈥楪wneud Bywyd yn Haws鈥 gofynnodd Hannah Hopwood iddi hi pam yr enw Vulcanna?

Codi pwysau - Weightlifting

Edmygu - To admire

Ysbrydoliaeth - Inspiration

Ofnadwy o ddewr - Terribly brave

Mewn oes - In an age

Dyletswyddau - Duties

Ymgyrchu - To campaign

Prydferth - Beautiful

Noeth luniau - Nude portraits

Penodol - Specific

POST CYNTAF - ANT A DEC
Wel dyna sgwrs aeth 芒 ni o godi pwysau i Vulcanna i Michelangelo ac i golli pwysau, diddorol on鈥檇 ife?
Os ydych chi鈥檔 un o鈥檙 MILIYNAU sy鈥檔 gwylio I鈥檓 a Celeb sy鈥檔 cael ei ffilmio yng Nghastell Gwrych ger Abergele, byddwch chi wedi clywed Ant a Dec yn siarad ychydig o Gymraeg. Cafodd Dylan Jones air gyda鈥檜 tiwtor Garffild Lewis ar y Post Cyntaf....

Y gyfres The series

Darlledu - Broadcast

Cyflwynwyr - Presenters

Llais cyfarwydd - A familiar voice

Ynganu - Pronunciation

Cywair - Register (of language)

Ymddiriedolaeth - Trust

Ymgynghorwyr - Consultants

T卯m cynhyrchu - Production team

Agwedd - Attitude

SIOE FRECWAST - CARYL A DAF
Ac arhoswn ni gyda I鈥檓 a Celeb am y clip ola. Un sy鈥檔 byw yn agos iawn at Gastell Gwrych ydy Sian Rees a gofynnodd Caryl a Dafydd iddi hi sut ymateb sy wedi bod yn yr ardal i鈥檙 gyfres..

Ymateb - Response

Pwnc trafod - Talking point

Arferiad - A habit

Hyd y gwela i - As far as I can see

Yn eu hoed a鈥檜 hamser - Of a certain age

Byrlymu - Buzzing

Rhoi ni ar ben ffordd - Bring us up to date

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

16 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar 91热爆 Radio Cymru,

Podlediad