Main content

Pigion y Dysgwyr 20fed Tachwedd 2020

Bryn Terfel, Tony ac Aloma, yr actores Sian Owen, a Cwmni Cardiau Draenog

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …

Elin Angharad – Tro’r Tir
Mae Elin Angharad o Fachynlleth ym Mhowys wedi dechrau busnes yn gwneud ac yn gwerthu ategolion lledr. Dyma hi’n sôn wrth griw Troi’r Tir am sut cafodd hi’r syniad o ddechrau’r busnes a sut aeth hi ati i’w sefydlu…

Ategolion lledr - Leather accessories

Sefydlu - To establish

Ymddiddori mewn - To take an interest in

Dilyn gyrfa - Pursue a career

Gweithdy - Workshop

Profiad Gwaith - Work experience

Penblwydd Cardiau Draenog - Bore Cothi
Merch arall o Bowys sydd wedi sefydlu busnes ei hunan ydy Anwen Roberts a hi oedd un o westeion Shan Cothi yr wythnos yma. Mae ei chwmni, Cwmni Cardiau Draenog, wedi bod mewn busnes am 10 mlynedd ac mae gan Anwen gynlluniau arbennig am sut i ddathlu hynny.

Arbenigo - To specialise

Cyfoes - Modern

Dylunio - To design

Casgliad - A collection

Yn go llwm - Really tough

Personoleiddio - To personalise

Yr amrywiaeth - The variety

Arddulliau - Styles

Anhygoel - Incredible

Archeb - Order

Richard Burton – Aled Hughes
Wel am syniad da, ond’ ife? Tybed beth fydd yr anrhegion bach – cewch wybod os wnewch chi archebu cardiau gan Anwen! Roedd yr actor Richard Burton yn dod o Bontrhydyfen yn Nghwm Afan yn wreiddiol, a tasai fe’n fyw basai wedi dathlu ei benblwydd yn 95 oed yr wythnos yma. Cafodd Aled Hughes sgwrs am yr actor byd enwog gyda Sian Owen, ei nith, sy’n dal i fyw ym Mhontrhydyfen.

Cof plentyn - A child’s memory
Atgof - a recollection
Ffili symud - Couldn’t move
Mo’yn mynd lan loft - Wanted to go upstairs

Enw’r Clip: Clip Penblwydd Bryn Terfel
Rhaglen: Dewi Llwyd

Seren fyd enwog arall oedd yn dathlu ei benblwydd yr wythnos diwetha sef Bryn Terfel a fe oedd gwestai penblwydd Dewi Llwyd fore dydd Sul. Dyma i chi flas ar y sgwrs ble mae Dewi’n holi Bryn a oes yna bendraw i yrfa canwr opera…

Pendraw - An end

Unwaith yn rhagor - Once more

Heb os nac oni bai - Without doubt

Cynulleidfa yn cymeradwyo - The audience applauding

Mwyniant - Pleasure

Cydnabyddiaeth - Acknowledgement

Cymhelliad - Motivation

Beirniaid - Adjudicators

Clod - Praise

Cyffelybu - Compare

Tony Ac Aloma - Cofio
‘Falle nad ydy’r ddeuawd Tony ac Aloma o Sir Fôn yn sêr byd enwog fel Bryn Terfel a Richard Burton, ond er hynny digwyddodd rhywbeth iddyn nhw mewn caffi yn Nhregaron yn y chwedegau wnaeth iddyn nhw ddechrau meddwl eu bod nhw wedi cyrraedd! Dyma’r ddau yn hel atgofion gyda John Hardy…

Deuawd - Duet

Hel atgofion - Reminiscing

Sêr y byd - Global stars

Pres - Arian

Pa mor boblogaidd - How popular

Ffefryn - Favourite

Gwyndaf Lewis - Geraint Lloyd
Tony ac Aloma oedd rheina, sêr canu Cymraeg yn y chwedegau a’r saithdegau, yn cofio am ddigwyddiad arbennig yn Nhregaron. Cafodd Geraint Lloyd gyfle i longyfarch Gwyndaf Lewis o glwb Ffermwyr Ifanc Hermon am ennill gwobr ‘Cefnogwr Cymunedol y Flwyddyn’. Beth yn union oedd Gwyndaf wedi ei wneud i ennill y wobr? Wel llawer iawn o bethau, fel cawn ni glywed yn y clip nesa ’ma…

Gwobr - Award
Cefnogwr Cymunedol - Community supporter
Enwebu - To nominate
Yn llawn haeddu - fully deserve
Ymdrechion rhyfedda - the most amazing effort s
Hyfforddi - To train
Elusennau - Charities
Llwybr arfordir - Coastal path
Cyfwerth â - Equivalent of

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

15 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar 91Èȱ¬ Radio Cymru,

Podlediad