Main content

Pigion y Dysgwyr 23ain Hydref 2020

Blas ar hanesion dysgwyr o bob cwr o'r byd ar Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg 2020

Post Cyntaf
Roedd hi’n wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg 91Èȱ¬ Radio Cymru wythnos diwetha a gaethon ni’r cyfle i glywed gan lawer iawn o ddysgwyr am eu bywydau a’u profiadau’n dysgu’r iaith. Dechreuodd yr wythnos fore Llun wrth i Dylan Jones holi Barry Lord o Drefaldwyn ym Mhowys. Cafodd Barry ei ysbrydoli i ddysgu’r Gymraeg ar ôl bod yn yr Eisteddfod Genedlaethol pan aeth hi i ardal Meifod ym Mhowys yn 2015. Ond ydy’r pandemig wedi cael effaith ar ei brofiadau Cymraeg yn y dosbarth a’r tu allan i’r dosbarth?

Eu bywydau a’u profiadau - Their lives and experiences

Cafodd Barry ei ysbrydoli - Barry was inspired

Trefaldwyn - Montgomery

Hyder - Confidence

Pabell - Tent

Yn galonogol iawn - Very encouraging

Anhygoel - Incredible

Cyfathrebu - To communicate

Gan gynnwys - Including

Aled Hughes
Barry Lord o Drefaldwyn yn dal i ddysgu ac i ddefnyddio’r Gymraeg er gwaetha’r pandemig. Mae Kai Saraceno yn dod o’r Eidal yn wreiddiol a buodd o’n byw yn y Ffindir ers pan oedd e’n naw oed. Ar hyn o bryd mae’n astudio’r Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor. Dyma i chi glip o Aled Hughes yn ei holi am ei hanes e’n dysgu’r Gymraeg.

Er gwaetha - In spite of

Bodoli - To exist

Ar hap - By chance

Cymeriad - Character

Mae’n deg dweud - It’s fair to say

Newid cyfeiriad - To change direction

Yn falch - Pleased

Cymuned - Community

Trafod - To discuss

Aled Hughes
…a dyma i chi glip arall o Kai. Drwy gydol Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg roedd Kai ar ein sioeau yn gyson er mwyn sgwrsio gyda dysgwyr eraill a rhoi’r teimlad i ni gyd sut beth yw dod at yr iaith o‘r newydd fel oedolyn. Un ferch gafodd ei holi oedd Shaun McGovern, sy’n dod o Washington DC yn wreiddiol ond sy erbyn hyn yn byw yng Nghaernarfon. Dyma i chi flas ar y sgwrs…

Chdi - Ti

Gwatsiad - Gwylio

Ffindir - Finland

Yn ddiweddar - Recently

Y rhan fwyaf - Most

Wedi cuddio - Hidden

Shan Cothi
Eidalwr yn siarad yn Gymraeg gydag Americanes am eu profiadau’n dysgur iaith – gwych on’d ife? Gwestai Sian Cothi i ddathlu’r wythnos arbennig hon oedd Janet Tabor o Gastell-Nedd. Mae hi wedi bod yn dysgu Cymraeg ers pedair blynedd a dyma hi’n sôn am ei thaith yn dysgu’r iaith.

Caeredin - Edinburgh

Caint - Kent

Casgwent - Chepstow

Hwb - Boost

Dychmygu - Imagine

Gerallt Lloyd
Janet Tabor oedd honna wedi cael blas ar y Gymraeg drwy fynd ar un o gyrsiau Gwent. Tiwtor Cymraeg oedd un o westeion Geraint Lloyd wythnos diwtha – Eilir Jones sydd yn dysgu yng ngogledd ddwyrain Cymru. Mae Eilir hefyd yn gomedïwr ac yn berfformiwr a dyma fe’n egluro wrth Geraint pam oedd e eisiau dod yn diwtor a sut cafodd e’r swydd …

Tyrd draw - Come over

Fesul awr - Hourly

Hyfforddiant - Training

Cymwysterau - Qualifications

Cyngor - Advice

Gwerthfawrogi - To appreciate

Cefnogaeth - Support

Yr Wyddgrug - Mold

Sara Yassine
Eilir Jones oedd hwnna’n sôn am fywyd tiwtor Cymraeg.
Mae Sara Yassine a’i thad Ali yn dod o Grangetown, Caerdydd ac mae’r ddau’n siarad Cymraeg. Mae eu teulu yn dod o’r Aifft ac o Somalia yn wreiddiol. Dyma Ali’n rhoi o ychydig o hanes y teulu ac wedyn Sara’n chwilio am hanes poblogaeth leiafrifol Caerdydd.

Yr Aifft - Egypt

Lleiafrif - Minority

Mwyafrif y disgyblion - The majority of the pupils

Ymgynghorydd Treftadaeth - Heritage Consultant

Bedyddio - To baptise

Cofnod - Record

Cafodd ei gaethiwo - Was enslaved

Eu cadw’n gaeth - Kept captive

Y Gymanwald - The Commonwealth

O dras Prydeinig - Of British heritage

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

18 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar 91Èȱ¬ Radio Cymru,

Podlediad