Main content

Podlediad Pigion y Dysgwyr 20fed o Fawrth 2020

Ynys Blastig, Gwyneth Keyworth, Mari a Mair, Kid Cymru, Adam ac Adrian a Jimmy Carter

Hwyrnos Georgia Ruth - Ynys Blastig

niwed harm
amgylchedd environment
creadigol creative
lleihau defnydd reduce the use
Cyfarwyddwraig Director (female)
darn o gelf piece of art
gorddefnydd overuse
atgoffa to remind
pi pi'n bob man urinating everywhere
hybu to promote

"Dyn wedi clywed llawer iawn yn ddiwedddar am y niwed mae plastig yn ei wneud i'r amgylchedd, ond dych wedi clywed am yr Ynys Blastig? Prosiect gan Gyngor Gwynedd ydy e a dyma'r actor Iwan Fon yn esbonio wrth Sian Eleri beth yn union yw Ynys Blastig...

"

Sioe Frecwast Radio Cymru 2 - Gwyneth Keyworth

ymddangos to appear
cyd-actorion co-actors
profiad experience
cyfres series
doniol funny
go iawn in reality
amyneddgar patient
elfennau elements

"Sian Eleri oedd honna ar raglen Hwyrnos Georgia Ruth yn siarad gyda'r actor Iwan Fon am yr Ynys Blastig.鈥
Cafodd Daf a Caryl sgwrs gyda Gwyneth Keyworth ar y Sioe Frecwast bore Mercher. Actores ydy Gwyneth ac mae hi'n ymddangos ar hyn o bryd yn y gyfres 鈥淭he Trouble with Maggie Cole鈥 ar ITV. Ei chyd-actorion ar y gyfres yw Dawn French a Mark Heap. Sut brofiad ydy gweithio gyda'r ddau tybed鈥.?

"

BORE COTHI - Mari a Mair

trawsblaniad aren kidney transplant
rhywbeth yn bod something wrong
ychwaneg more
profion tests
cyflwr genetig genetic condition
dim byd o'r fath nothing of the sort
anghyffredin unusual
bendith blessing
anhygoel incredible
meddyginiaeth medicine

"Gobeithio bydd Mark Heap yn nabod Gwyneth erbyn diwedd y gyfres on'd ife? Dydd Iau clwyon ni hanes dwy ferch ifanc ar Bore Cothi, Mari Siwan Davies o'r Parc ger y Bala a Mali Elwy o Danyfron ger Llansannan yn Sir Conwy. Mae un ohonyn nhw wedi cael trawblaniad aren a鈥檙 llall yn aros am un. Dyma Mari i ddechrau'n sgwrsio gyda Shan鈥.

"

Sioe Sadwrn - Kid Cymru

campfa gym
tyfu lan to grow up
ymateb response
watsio to watch
yn gleisiau i gyd bruises all over
taflu to throw
cyhyrog muscular
cwympo to fall
ffili esgus cannot pretend

"... a chafodd y sgwrs honno ei recordio ar Ddiwrnod Aren y Byd. Mae gan Gethin Williams o ardal Llanelli enw arall sef Kid Cymru - ei enw reslo ydy hwnnw. Ar Sioe Sadwrn gofynnodd Geraint Hardy iddo fe sut dechreuodd y diddordeb mewn reslo...

"

Dros Ginio - Adam ac Adrian

gwas sifil Civil servant
arweinydd leader
barn wleidyddol swyddogol an official political opinion
syndod surprise
dylanwad mawr huge influence
gwleidyddiaeth politics
priodoli to attribute
cyfeiriadau references
prin iawn ei Gymraeg limited knowledge of Welsh
gwythien vein

"Hanes Kid Cymru yn fan'na ar Sioe Sadwrn.
Yn y gyfres Dau cyn Dau y ddau frawd Adam a Adrian Price oedd yn siarad gyda Dewi Llwyd. Mae Adrian yn was sifil ac yn diwtor Cymraeg i Oedolion ac Adam yw arweinydd Plaid Cymru. Saesneg yw mamiaith Adam ond Cymraeg mae e'n siarad gyda'i frawd Adrian. Sut ddigwyddodd hynny oedd un o gwestiynau Dewi Llwyd i'r ddau.

"

Cofio - Jimmy Carter

gwleidydd politician
Cyn-Arlywydd former President
y diweddar the late
cysylltiadau contacts
answyddogol unofficial
gofalu amdano fe looking after him
pwysau pressure

"...Adam Price yn fan'na - gwleididd sydd 芒 chysylltiad agos ag America gan iddo fe astudio ym Mhrifysgol Havard. Ond gwleidydd Americanaidd gyda chysylltiad 芒 Chymru sydd yn y clip nesa - sef Jimmy Cartrer, cyn Arlywydd America. A'r cysylltiad 芒 Chymru? Wel yn 1986 dreuliodd e wythnos yng Ngorllewin Cymru yn pysgota gyda Moc Morgan fel y clywon ni ar Cofio . Dyma John Hardy yn holi'r diweddar Moc Morgan...

"

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

15 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar 91热爆 Radio Cymru,

Podlediad