Cyfle gwych i bobol ifanc
Ysgoloriaeth Geraint George 2020
Sefydlwyd yr ysgoloriaeth hon gan Gyfoeth Naturiol Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri er cof am Geraint George, a oedd yn amgylcheddwr, addysgwr a chyfathrebwr brwd. Roedd wrth ei fodd yn gweithio gyda phobl ifanc a’u hannog i drafod a ffurfio barn am bynciau amgylcheddol yng Nghymru a thu hwnt.
Nod yr ysgoloriaeth flynyddol, sy’n agored i unigolion 18-25 oed, yw meithrin cyfathrebwyr gwych a all helpu pobl yng Nghymru i werthfawrogi’r byd naturiol a deall y ffactorau sy’n effeithio arno.
Gwahoddir cystadleuwyr i anfon gwaith cyfathrebu, mewn unrhyw gyfrwng ac ar unrhyw bwnc amgylcheddol sy’n berthnasol i Gymru. Bydd yr enillydd yn cael dewis un ai ymweld â Pharc Cenedlaethol Triglav yn Slofenia (sydd wedi ei gefeillio â Pharc Cenedlaethol Eryri), neu fynychu cynhadledd Ewroparc a gynhelir mewn gwahanol ran o Ewrop bob blwyddyn.
Gwahoddir cystadleuwyr i anfon gwaith cyfathrebu mewn unrhyw gyfrwng ac ar unrhyw bwnc amgylcheddol sy’n berthnasol i Gymru.
Gallwch gyflwyno’ch gwaith drwy unrhyw gyfrwng – dyma ambell syniad i chi!
Ffilm fer [hyd at 3 munud o hyd]
Blog [wythnos fan lleiaf]
Eitem sain wedi recordio [hyd at 3 munud o hyd]
Hyd at 3 Erthygl(au)
Cartwnau neu Bosteri [hyd at 3]
Cyflwyniad PwyntPwer ar bwnc arbennig
Taflen(ni) Gwybodaeth [hyd at 3]
Ysgrif(au) neu ddetholiad o draethawd ar bwnc arbennig
Stori/Straeon [hyd at 3]
Gellir canfod mwy o wybodaeth am enillwyr blaenorol a sut i gyflwyno'ch gwaith ar wefan yr Urdd.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau 15/02/2020
-
Sginc Tafod Glas Galwad Cynnar
Hyd: 02:46
-
Rhyfeddodau natur ardal Abergele
Hyd: 03:19
Mwy o glipiau Galwad Cynnar
-
Llynnoedd Cymru
Hyd: 02:39
-
Y wennol
Hyd: 03:38