Main content

Podlediad Dysgu Cymraeg - 12fed o Chwefror 2020

Uchafbwyntiau Radio Cymru gyda chyflwyniadau clir fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Rhaglen Aled Hughes - Gwartheg yn siarad

gwartheg - cattle
brefu - mooing
ymchwil - research
ar brydiau hwyrach - at times perhaps
tynnu lloiau - pulling calves
blawd - cattle feed
heffrod - heiffers
tarw - bull
fel diawl - intensely
coelio - credu

Yn yr wythnos pan ddaeth y ffilm 'Dr Dolittle' allan dyma Aled Hughes yn penderfynu basai fe'n trio cael sgwrs gyda gwartheg Bryn Roberts o Benisarwaun ger Llanberis. Roedd e wedi clywed bod gwartheg yn gallu brefu mewn 13 o wahanol ffyrdd a bod pob bref yn golygu rhywbeth gwahanol. Dyma sut aeth sgwrs Aled gyda'r gwartheg druan.

Ar y Marc - Corau Rhys Meirion

gelynion - enemies
dewr - brave
cyfres newydd - new series
cythraul canu (idiom) - singing rivalry
cyd-ganu - singing together
profiad gwych - brilliant experience
cantorion - singers
ymarfer - rehearsal
oddi cartre - away
buddugoliaeth - victory

Aled Hughes oedd hwnna'n trio cael sgwrs gyda gwartheg. Dim ond pedair milltir sy rhwng pentrefi Llanrug a Llanberis yng Ngwynedd ac mae timau p锚l-droed y pentrefi yn dipyn o elynion ar y cae chwarae. Penderfyniad dewr felly oedd un Rhys Meirion i ddod 芒'r ddau d卯m at ei gilydd i ganu fel un c么r. Ar raglen Ar y Marc cafodd Dylan Jones sgwrs gyda Rhys Meirion, Dafydd Arfon o Lanrug ac Eurwyn Thomas o Lanberis am y syniad dewr yma.

Rhaglen Ifan Jones Evans - Colin Jackson

cyflwynydd - presenter
ei ardal enedigol - area of his birth
arfordir - coast
Gwersyll - Camp
dyfalu - to guess
peiriant amaethyddol - agricultural machine
go iawn - real

Cofiwch wylio'r gyfres newydd nos Iau ar S4C i chi gael gweld sut si芒p oedd ar y c么r erbyn i Rhys Mrieion orffen gyda nhw.
Mae yna gyfres newydd arall yn dod i S4C sef Iaith Ar Daith ac yn un o raglenni'r gyfres mae'r cyflwynydd Eleri Sion yn mynd o gwmpas ardal enedigol y cynathletwr Colin Jackson ac yn rhoi cyfle i Colin, sy'n dysgu'r iaith, ymarfer y Gymraeg ar y ffordd. A dydd Llun diwetha, llwyddodd Ifan Jones Evans i ddod o hydi'r ddau ohonyn nhw ar eu taith a'u holi ble byddan nhw'n mynd nesa.

Bore Cothi - Stifyn Parri

trawsblaniad gwallt - hair transplant
blewyn - a hair
tyllu mewn - dig into
gwreiddyn - root
mae na lu o nyrsys - there's a legion of nurses
triawd y buarth - the farmyard trio (welsh folk song)
hylif arbennig - special liquid
croen - skin
ail-blannu - replant
planhigyn - plants

A bydd yn bosib gweld llawer o bobl sy'n dysgu Cymraehg yn y gyfres Iaith ar Daith, Colin Jackson yn fan'na ond hefyd bydd Carol Vorderman yn ymddangos mewn un o'r rhaglenni. Mae'r actor Stifyn Parri wedi cael trawsblaniad gwallt yn ystod y pythefnos diwetha. Dyma fe ar Bore Cothi'n esbonio'r broses. Oedd hi'n un boenus tybed?

Geraint Lloyd - Aberhonddu

Aberhonndu - Brecon
tref farchnad wledig - a rural market town
Y Bannau - The Beacons
diwydiant ymwelwyr - tourist industry
traddodaid - tradition
amrywiaeth - variety
atyniad - attraction
camlas - canal
nwyddau - goods
diwydiant haearn - iron industry

Stifyn Parri oedd hwnna yn s么n am ei drawblaniad gwallt. Pa mor dda dych chi'n nabod Aberhonddu? Wel dyma'r dref oedd yn cael ei rhoi Ar y Map ar raglen Geraint Lloyd nos Fawrth, ac un sydd yn nabod y lle yn dda ac wedi byw yno ers hanner can mlynedd bellach ydy John Meurig Edwards. Dyma fe'n rhoi ychydig o hanes y dre.

Beti A'i Phobol - Elinor Snowsill

rhyngwladol - international
araith - speech
mo'yn - eisiau
pwysau - pressure
cyfarwydd 芒 - familiar with
gorfeddwl - to overthink
rhyddh芒d - relief
gan eitha lot - by quite a big margin
anaf - injury
bwrw (fy) mhen i - hit my head

Bach o hanes tref Aberhonddu yn fan'na ar raglen Geraint Lloyd. Gwestai Beti George yr wythnos diwetha oedd y chwaraewraig rygbi ryngwladol Elinor Snowsill. Roedd Elinor yn arfer dioddef o beth roedd hi'n ei alw'n Performance Anxiety. Beth oedd effaith hyn ar ei g锚m a sut wnaeth hi ddodd dros y cyflwr? Dyma hi'n esbonio wrth Beti.

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

19 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar 91热爆 Radio Cymru,

Podlediad