Abertawe v Caerdydd - y Ddarbi Gymreig
‘Croeso i’r Liberty’
Mae un gêm yn twymo’n gwaed,
Un her yn twymo’r oerwaed ;
Ai Barnsley? Derby? Nid un
O’r rhain a fedr ennyn
Y tân yn nwfn ein canu,
Y tân llydan trwy ein llu.
Â’u cred wag daw tîm Caer-dydd
A’u dynion gwan eu deunydd!
Pa hwyl ydyw lympio’u pêl
Yn hir, hir, tua’r gorwel?
Ni, hil ledrith y glewdroed,
Hil o dras y sêr pêl-droed.
Rodon ein harwr ydyw,
A Dyer bach ar dro byw ;
Mae cynnwrf yng ngham Connor
Ar y maes fel tonnau’r môr,
A’n llew yw Ayew’r awen,
Rhwyda’n bert â’i droed neu’i ben!
Uwch ac uwch hed Alarch gwyn
Na stŵr y Glas Aderyn ;
Ododdin y brifddinas,
Er eich medd, a fentrwch mas
Yn ddi-ofn, a feiddiwch ddod
I’r hen bair? Ry’n ni’n barod!
Robat Powell
I'r Adar Gleision
There once was a team from Leckwith
Who found this season very "lletchwith",
But with Bamba and pack,
Warnock won't get the sack,
As we hope to get one on the jacks!
Michelle Lewis
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
Bardd Hydref 2019 - Robat Powel—Gwybodaeth
Robat Powel yw bardd Radio Cymru ar gyfer mis Hydref 2019.
Mwy o glipiau Abertawe v Caerdydd
Mwy o glipiau Ar y Marc
-
Alan Llwyd, Cofio Leighton
Hyd: 02:09
-
Cymru v Y Ffindir
Hyd: 07:18