Main content

Tudur Hallam - Arallgyfeirio?

Arallgyfeirio?

Dwi'n poeni'n fawr am Daniel Glyn.
Mae ’na olwg ar y bachan.
Mae stand-up Cymru mas o waith.
Sdim iws dim mwy i’w ddychan.

Mor hurt yw'r news, fel nad oes modd
dychmygu gwaeth na’r ffwlbri
sy’n sgrechian arnom ddydd a nos,
a ni'n imiwn i’r dwli.

Mae Brexit nawr yn hen, hen joc.
Heb ddeunydd, Dan sy’n meddwl:
‘Mae’n bryd im’ ailgyfeirio’n siŵr
a throi’n wleidydd, wedi’r cwbwl.

Caf ddweud a fynnaf, bod yn gas;
caf sgriptio’r holl benawdau.
Po fwya’r antics, mwya’n byd
y caf lywio’r hen gyfryngau.

Bydd pawb yn heclan, pawb yn flin,
a hi’r Senedd imi’n llwyfan –
y gwleidydd odia', hurta’ ’rioed,
y Daniel Glyn diddychan.’

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

43 eiliad

Daw'r clip hwn o