Main content

Cerdd gan Tudur Hallam

Portread o Wersyll (Di-Frexit)
gyda diolch i gerdyn iechyd yr Undeb Ewropeaidd

Gwersyll dwy seren
a’r pitch yn fach
ond i ni – goleuni’r byd;
eleni’n fwy nag erioed.

Catalaniaid yw’r mwyafrif;
eu ‘Bon Dia’ a’u ‘Merci’
yn rhuban haul rhwng y pebyll.

A rhyngddynt,
rhyw beli boule o ymwelwyr,
a chlec y Gymraeg a’r Ffrangeg
ar drywydd yr un wefr fach:

cael bod yma
yng nglesni braf y teulu hwn,
heb ddim ond Cristina a Jordi, eu rhieni a’u plant
i’n difyrru ni.

Ac wrth drochi yn eu gwên a’u chwerthin
a chlywed gan un
fod angen pwythau ar un o’m plant –
iddo syrthio oddi ar ei feic a rhwygo’i goes,
’chynhyrfa’i ddim mwy na’r awel dyner o Fôr y Canoldir.

Mae ’goriadau Ewrop yn fy walet i
a rhwymyn ym Mhalamós fel yng Nglangwili.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

6 o funudau

Daw'r clip hwn o

Dan sylw yn...