Bytholrwydd
Dilyniant i’r gerdd gyntaf a ysgrifennais fel Bardd y Mis, Radio Cymru.
I fam a gollodd fab a’r boen a’r braint o gael ei galw’n ‘Mam’ wedi’r golled honno...
Doedd hi a atebodd, mor hapus, i ‘Mam’
fyth yn dyfrio’r goeden geirios
a oedd yno wrth ei groesawu i’w grud,
a wywodd wrth weld yr aelwyd yn fud
sy’n sefyllian wrth ddrws yr aelwyd o hyd.
Y mae hi, sy’n gwingo wrth glywed ‘Mam’
yn dyfrio’r goeden geirios erbyn hyn
trwy’i dagrau,
a chosi’r awel â’i geiriau,
ac adlewyrchiad y petalau pinc yn wrid-gwneud
ar ei gruddiau -
ond gerfydd ei chysgod,
llusga’i thraed i ddilyn dafnau dail
a siwgwr blodau
nes llusgo’n ddim
ond cragen i enaid
ond er ei cholled
tyf hi’n dawel fel
coed afalau
yn fyrdd balch
o flagur ei hadau –
bytholwyrdd
ac wrth i’r afalau fygwth pydru
ni wna hi ond goglais gwywo
ac ymfalchïo,
erbyn hyn,
wrth glywed ‘Mam’.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
Bardd Ebrill 2019 - Caryl Bryn—Gwybodaeth
Caryl Bryn yw bardd Radio Cymru ar gyfer Ebrill 2019.